Dyn yn yr ysbyty wedi digwyddiad mewn maes parcio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn yr ysbyty wedi adroddiadau bod rhywun wedi cael ei drywanu, yn ôl Heddlu De Cymru.
Cafodd dyn 23 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad ym maes parcio gwesty'r Ibis yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i fan y digwyddiad am 11:00 ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu: "Rydyn ar ddeall bod y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd ac mae ymchwiliadau'n parhau.
"Rydyn ni'n annog unrhyw dystion a welodd y ddamwain neu unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru."