De Affrica 19-16 Llewod

  • Cyhoeddwyd
Lukhanyo Am o Dde Affrica'n ochrgamu heibio Dan Biggar o'r LlewodFfynhonnell y llun, Gallo Images
Disgrifiad o’r llun,

Lukhanyo Am o Dde Affrica'n ochrgamu heibio Dan Biggar o'r Llewod

Collodd y Llewod eu gêm olaf yn y gyfres yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, gyda'r sgôr derfynol yn 19-16.

Roedd y gêm yn un agos, a gydag ond dau funud i fynd roedd y sgôr yn gyfartal 13-13.

Ond De Affrica fu'n fuddugol yn y pendraw ar ôl i Morne Steyn lwyddo i gicio cig gosb, yn ennill y gêm a'r gyfres i Bencampwyr y Byd.

Er fydd y Llewod yn siomedig gyda'r canlyniad, roedd y perfformiad yn wellhad ar ail gêm y gyfres yr wythnos ddiwethaf.

Cychwynnodd y gêm gyda'r Llewod dan y lach a De Affrica yn pwyso yn hanner y Llewod.

Ar ôl deg munud o chwarae, llwyddodd Handre Pollard gyda chic gosb.

Roedd mwy o newyddion drwg i'r Llewod pan orfodwyd Dan Biggar oddi ar y cae ar ôl taclo'r canolwr De Allende.

Tarodd y Llewod nôl gyda chic 35 metr drwy'r pyst ar ôl chwarter awr, yn dod a'r sgôr yn gyfartal.

Parhaodd pwysau'r Llewod wrth i Ken Owens dirio ar ôl sgarmes symudol gryf, yn sgorio cais. Llwyddodd Finn Russell - ddaeth ymlaen yn lle Biggar - drosi'r cais i wneud y sgôr yn 3-10.

Pum munud cyn ddiwedd yr hanner, â'r ddau dîm yn mynd yn ben ben gyda'i gilydd, llwyddodd Pollard gyda'i ail gic o'r gêm i wneud y sgôr ar yr hanner yn 6-10.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams yn ceisio dianc o amddiffynwyr De Affrica

Methodd Pollard gic bwysig iawn saith munud mewn i'r ail hanner, yn dod â'r sgôr o fewn un pwynt. Tarodd o'r postyn - gyda'r Llewod yn clirio, a dim newid i'r sgôr.

Ar ôl i Russel daclo Cheslin Kolbe yn anghyfreithlon, roedd cic gosb Pollard yn aflwyddiannus eto. Dim yn aml chi'n gweld y dyn yma yn methu.

Gyda 56 munud ar y cloc, pasiodd Willie le Roux i Kolbe. Doedd dim stopio'r asgellwr chwim. Curodd o ddau ddyn i dirio yn y gornel a rhoi'r fantais i Dde Affrica.

Llwyddodd Pollard gyda'r trosiad, yn gwneud y sgôr yn 13-10.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Gydag ugain munud i fynd, ciciodd Finn Russell cic gosb i ddod â'r sgôr yn hafal unwaith eto

Gwnaeth Finn Russell y sgôr yn hafal wrth gicio cic gosb o 48 metr gydag ugain munud i fynd.

O un pen i'r llall. Doedd dim llawer rhwng y ddau dîm. Ond llwyddodd Morne Steyn gyda chic gosb i sicrhau'r fantais eto i Dde Affrica.

Ar ôl cam-drin yn ardal y dacl, fe lwyddodd Finn Russell throsi cic gosb i wneud hi'n gyfartal unwaith eto, gyda phum munud i fynd.

Ond yn y funud olaf, fe giciodd Morne Steyn De Affrica i fuddugoliaeth, yn cipio cyfres taith y Llewod 2021 o 2-1.

Sgôr derfynol: De Affrica 19-16 Llewod.

Pynciau cysylltiedig