Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gwesty'r Ibis, Giât CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym maes parcio gwesty Ibis fore Sadwrn

Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym maes parcio gwesty Ibis yng ngogledd-ddwyrain y brifddinas am 11:00 fore Sadwrn.

Mae disgwyl i Sennan Graham-Ahearne, 22 oed o Ddyfnaint, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Mae'r dyn 64 oed, sydd hefyd o Ddyfnaint, a anafwyd yn y digwyddiad yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.