Newid hinsawdd yn effeithio ar ffermio cregyn gleision
- Cyhoeddwyd
Mae newid hinsawdd yn un o'r rhesymau tu ôl i benderfyniad ffermwr pysgod cregyn i roi'r gorau i gynhyrchu cregyn gleision yn Afon Menai.
Mae Shaun Krijnen yn berchen ar gwmni Menai Oysters, a sefydlwyd ganddo yn Nwyran, Ynys Môn, yn 1994.
Mae'r cwmni'n cynhyrchu wystrys yn bennaf, ond dechreuodd ffermio cregyn gleision yn 2000.
Tra bo'r ochr wystrys yn ffynnu ac yn parhau, mae'r biolegydd morwrol wedi penderfynu nad oes gwerth dal ati i fagu cregyn gleision fel mae pethau ar hyn o bryd.
Diffyg cregyn gleision
Mae tywydd cynhesach yn y blynyddoedd diweddar yn un o'r rhesymau, meddai, gan nodi iddo gael colledion o £40,000 yn 2019 oherwydd bod y cregyn wedi coginio ar y traeth i bob pwrpas, oherwydd y tymheredd uchel.
Mae diffyg cregyn ifanc hefyd yn ffactor.
"Nid ar chwarae bach yr wyf wedi cymryd y penderfyniad i stopio ffermio cregyn gleision, serch hynny mae sawl ffactor wedi chwarae rhan ynddo," meddai Mr Krijnen.
"Y cyntaf a'r mwyaf dybryd yw diffyg cregyn gleision o unrhyw faint yn Afon Menai.
"Mae cynhyrchu cregyn gleision yn ddibynnol ar gael cyflenwad o rai ifanc, sy'n cael eu cynaeafu a'u hail-osod i dyfu am ddwy flynedd.
"Yn anffodus, ddwy flynedd yn ôl doedd prin ddim cregyn hadu (seed mussels) ar gael yn unman, ac o ganlyniad does 'na ddim cregyn gleision aeddfed eleni.
"Mae ardaloedd fel Bae Caernarfon, a oedd yn arfer bod â chyflenwad da o gregyn hadu, wedi stopio cynhyrchu yn gyfan gwbl, gyda dim ond niferoedd bychan yn cael eu cynhyrchu mewn dwy allan o'r deng mlynedd diwethaf.
Mae'r gwely cregyn gleision y mae'n ei ffermio wedi ei gofnodi ar fapiau ers y 1700au, ond does 'na ddim cregyn o gwbl arno rŵan, meddai.
"Yn ail, am fy mod yn ffermwr cregyn gleision rhynglanwol (intertidal) am y pum neu chwe mlynedd diwethaf dwi wedi bod yn colli cregyn gleision oherwydd tywydd poeth.
"Mae cregyn gleision yn bwrw grawn yn y gwanwyn ond dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cael tywydd cynhesach. Gan bod cregyn yn wan ar ôl silio, dydyn nhw ddim yn gallu goddef newidiadau mewn tymheredd rhwng pob llanw.
"Mi wnes i geisio cael cyflenwad o lefydd eraill ond dydyn nhw jest ddim cystal, ac unwaith eto fe brofodd y tywydd poeth diweddar yn ormod," meddai.
Dywedodd bod 2019 wedi bod yn flwyddyn arbennig o niweidiol gyda thymheredd yn torri pob record yn y DU lle'r oedd y cregyn wedi cael eu coginio ar y traeth i bob pwrpas, gan arwain at golledion o £40,000.
"Ar y llaw arall, mae wystrys yn cymryd blwyddyn gyfan yn llai i dyfu i'r maint priodol ar gyfer y farchnad nag oeddan nhw pan ddechreuais i ym 1994. Pwy sy'n dweud nad yw newid hinsawdd yn rhywbeth real?
'Trasiedi' i Gymru
"Yn olaf, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu adnewyddu unrhyw brydles pysgod cregyn yng Nghymru ers cymryd cyfrifoldeb am bysgodfeydd yn 2010.
"Mae fy nghais i wedi bod gyda'r llywodraeth ers bron i 11 mlynedd, heb unrhyw ddatblygiad yn yr amser hynny.
"Yn wir, ymhen chwe mis ni fydd gan Gymru unrhyw safleoedd swyddogol yn yr holl wlad, sy'n dipyn o drasiedi i wlad sydd ag arfordir ar dair ochr iddi.
"Does gan hyn ddim byd i'w wneud efo staffio gan bod o leiaf un swyddog yn yr adran bysgodfeydd ar gyfer 10 o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota a ffermio pysgod yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi rhoi tri Gorchymyn Unigol ar gyfer pysgodfeydd cregyn gleision ac wystrys ers 2010.
"Er bod Gorchymyn Unigol yn rhoi hawliau gwarchodedig i'r sawl sy'n derbyn grant i'r pysgod cregyn mewn pysgodfa, nid yw'n ofyniad i sefydlu pysgodfa gregyn.
"Cafodd yr ardal y mae Mr Krijnen yn ei ffermio ei chynnwys fel rhan o gais am Orchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision ac Wystrys Afon Menai (Gorllewin).
"Fodd bynnag, daeth hyn ar draws oedi oherwydd y defnydd arfaethedig o wystrys y Môr Tawel, sef rhywogaeth ymledol anfrodorol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd12 Awst 2016
- Cyhoeddwyd19 Medi 2018