Pysgota cregyn gleision y Fenai yn y fantol heb reolaeth newydd
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r diwydiant ffermio cregyn gleision ar y Fenai fod yn y fantol os na fydd mesurau rheolaeth newydd yn cael eu cymeradwyo'n fuan.
Dyna bryder cynhyrchwyr lleol, sy'n poeni y gallai'r diwydiant ddiflannu'n llwyr os na fydd Gorchymyn Pysgodfa newydd i gymryd lle'r un presennol sy'n dod i ben yn 2022.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wrthi'n gweithio ar orchymyn newydd i'r ardal.
Amddiffyniad cyfreithiol
O'r môr i'r plât, mae gan gregyn gleision le parhaol ar fwydlen nifer o dai bwyta ar lannau'r Fenai.
Mae'r cynnyrch lleol yn ddewis poblogaidd, fel yr esbonia David Retallick o fwyty Dylan's ym Mhorthaethwy.
"Mae pawb yn licio dod i'r bwyty i fwynhau cregyn gleision o Afon Menai, yn bobl leol a rhai sydd ar eu gwyliau.
"Maen nhw'n mwynhau cael siawns i eistedd ac edrych allan ar y dŵr lle cawson nhw eu dal."
Oherwydd yr amgylchedd naturiol, Dwyrain Afon Menai ydy'r ardal fwya' ym Mhrydain ar gyfer ffermio cregyn gleision - gyda rhwng saith a deg tunnell yn cael eu cynaeafu yma pob blwyddyn.
Mae'r Gorchymyn Pysgodfa presennol mewn grym ers dechrau'r 60au, ac mae ymdrechion yn lleol ers rhai blynyddoedd i'w adnewyddu cyn iddo ddod i ben yn 2022.
Ond hyd yma dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi penderfynu ar y cais.
Cynnyrch Cymru 'yn enwog'
Yn ôl William John Jones o gwmni Deep Dock, sy'n ffermio cregyn gleision o'u safle ym Mhorth Penrhyn, ym Mangor, mae'r Gorchymyn Pysgodfa yn hanfodol.
"Mae'r gorchymyn yn ei le i roi rhyw fath o legal safeguard i ni a'r cwmnïau eraill sy'n gweithio yma.
"Y ffordd hawsa' i esbonio sut mae o'n gweithio ydy ei fod o'n rhyw fath o les, ac mae'r les yna'n rhoi'r hawl i ni roi cerrig gleision lawr a medru pysgota 'efo cychod o'r maint 'da ni'n defnyddio ac 'efo rhwydi fel s'gynnon ni.
"'Mond ni wedyn sydd 'efo'r hawl i bysgota yn yr ardal honno.
"Mae'r Fenai yn lle arbennig beth bynnag dydy, ond i ffermio cerrig gleision ar y Fenai - fedrwch chi'm cael lle gwell yng Nghymru, mae'r amodau'n berffaith."
Ewrop yw'r farchnad fwya' ar gyfer cregyn gleision y Fenai - ond er bod Brexit yn bryder, mae'r pysgotwyr yn poeni mwy am y Gorchymyn Pysgodfa yn y tymor hir.
"Heb i'r gorchymyn fynd yn ei flaen, yna hynny fydd y diwedd - dim ots be' sy'n digwydd 'efo Brexit na Covid nag unrhyw beth," meddai William John Jones.
"Unwaith fydd y gorchymyn yn gorffen, mae'r hawl sy' ganddon ni i roi'r cregyn gleision i lawr a 'sgota yn dod i ben a dydy'r protection ddim gynnon ni yn y gyfraith."
Llywodraeth yn 'dal i weithio'
Er bod 'na 16 mis o'r les presennol ar ôl, dydy o ddim yn credu bod digon o amser i ddatrys y sefyllfa.
Ychwanegodd: "Fasa chi'n gobeithio bod o ond pan 'da chi'n sbio ar ochr ogleddol y Fenai - mae'u gorchymyn nhw wedi rhedeg allan ers 2008 mae'n siŵr, a dydy'n nhw'n dal ddim 'efo gorchymyn newydd yn ei le.
"Dwi'n meddwl bod o'n bechod mawr i'r ardal ac yn bechod mawr i Gymru hefyd.
"Mae'n cerrig gleision ni'n cael eu hallforio ar draws Ewrop ar y funud ac mae enw cerrig gleision Cymru yn enwog, ac i hynny ddod i ben, mi fyddai'n siomedig iawn."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod hanes a phwysigrwydd ffermio cregyn gleision yn yr ardal.
Er gwaetha' Covid a Brexit, mae eu swyddogion yn dal i weithio ar adnewyddu'r Gorchymyn Pysgodfa ar gyfer Dwyrain Afon Menai, meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2020