Datblygu diwydiant pysgod cregyn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynhyrchwyr, gwyddonwyr a rheoleiddwyr pysgod cregyn wedi cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor er mwyn datblygu Canolfan Pysgod Cregyn newydd.
Bwriad sefydlu cynllun o'r fath yw cynyddu a chynnal sector pysgod cregyn dros Gymru.
Daw hyn wedi buddsoddiad o £2.8m gan yr Undeb Ewropeaidd i'r Ganolfan Wyddoniaeth ym mis Awst.
Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Yr Athro Lewis Le Vay o Ganolfan y Môr Cymru Prifysgol Bangor, bod y gweithdy'n gyfle i "gydnabod cyfleoedd a chyfyngiadau yng nghyswllt cynhyrchu pysgod cregyn ledled Cymru".
'Creu diwydiant cynaliadwy'
"Y gobaith yw cynnal diwydiant pysgod cregyn llewyrchus," meddai'r Athro Lewis Le Vay.
Dywedodd fod y diwydiant ar hyn o bryd yn "ganolog i Fangor gyda dros hanner cynnyrch cregyn gleision Prydain yn dod o'r Fenai".
"Rydym yn gobeithio ehangu'r sector tu hwnt i'r ardal yma ac mae cynrychiolwyr o nifer o ardaloedd dros Gymru yn dod i'r gweithdy," ychwanegodd.
Dywedodd James Wilson, o Gynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor, ei fod yn edrych ymlaen at weld y "potensial yn nyfroedd Cymru i wella a chynyddu cynhyrchiant pysgod cregyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2016