Hedfan dyn i'r ysbyty ar ôl disgyn o ffenest yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei hedfan i'r ysbyty yn dilyn adroddiadau iddo ddisgyn o ffenest adeilad yn Aberystwyth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd y Gogledd am 10:45 fore Mawrth, ble roedd person ag "anafiadau trawmatig".
Cafodd y dyn oedd wedi ei anafu ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn hofrennydd.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fe gawson ni ein galw am 10:47 bore 'ma yn dilyn adroddiadau o berson ag anafiadau trawmatig yn ardal Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth.
"Fe wnaethon ni anfon Ambiwlans Awyr Cymru, un cerbyd ymateb cyflym ac un criw ambiwlans brys i'r lleoliad.
"Cafodd person ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i gael triniaeth bellach."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am o gwmpas 10:45 bore 'ma i adroddiad bod dyn wedi disgyn o ffenest adeilad ar Ffordd y Gogledd, Aberystwyth. Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty.
"Cafodd y ffordd ei chau ond fe'i hail-agorwyd am 12:55."
Does dim mwy o fanylion am gyflwr y dyn.