Cludo dau i'r ysbyty ar ôl i fws daro coeden ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
bws

Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl i fws dau lawr daro yn erbyn coeden ger Abertawe brynhawn Mawrth.

Mae Ffordd y Mwmbwls wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi'r digwyddiad ger Knab Rock ychydig wedi 14:30, ac mae'r heddlu yn annog pobl i osgoi'r ardal.

Cafodd un person eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a pherson arall mewn cerbyd i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Cafodd sawl teithiwr arall eu hasesu a'u rhyddhau yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu nad yw'r un o'r rhai a anafwyd wedi diodde' anafiadau sy'n peryglu na newid eu bywyd.

'Mewn sioc'

Roedd Bob Morgan o Abertawe yn ymweld â'r Mwmbwls gyda'i wyres pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd fod yr anafiadau'n ymddangos yn rhai mân.

"Roedd tua 20 o bobl ar y bws," meddai. "Roedd yn ymddangos fel eu bod yn cerdded gydag anafiadau.

"Gwelais rai bechgyn ifanc yn cael eu trin am anafiadau i'r frest a mân anafiadau i'w pen.

"Roedd eraill mewn sioc - gwelais ddynes hŷn yn eistedd i lawr mewn sioc."

Roedd Shanai Neale yn ei char pan ddigwyddodd y damwain.

"O' ni'n teithio lawr Ffordd y Mwmbwls yn mynd tuag at y traeth pan wnaeth pawb brecio'n galed," meddai.

"O' ni tua thri char tu ôl a gwelais fod y bws wedi mynd mewn i'r goeden."

"Gofynnodd yr heddlu i ni droi o gwmpas felly wnaethom," ychwanegodd.

"Roedd pawb mewn panig, dwi'n credu roedd plant ar y fws ac wrth gwrs rhieni, felly roedden nhw i gyd wedi codi ofn. Byddai i wedi hefyd i fod yn onest."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Shanai Neale yn gyrru tri cherbyd y tu ol i'r bws pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod nifer o gerbydau wedi mynd i'r safle.

Meddai llefarydd: "Fe gawsom alwad am 14:32 y prynhawn yma i adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â bws dau lawr ar Ffordd Mwmbwls.

"Mae'r digwyddiad yn parhau. Mae gennym ddau gerbyd ymateb cyflym, un meddyg gofal brys, un ambiwlans ynghyd â nifer o adnoddau eraill ar y safle."

Roedd y bws yn y ddamwain yn un "Cymru Coaster" First Cymru, sy'n gweithredu rhwng Abertawe a'r Mwmbwls.

Dywedodd llefarydd ar ran First Cymru: "Gallwn gadarnhau bod un o'r cerbydau sy'n gweithredu gwasanaeth o Abertawe i'r Mwmbwls wedi bod mewn gwrthdrawiad yn gynharach y prynhawn 'ma.

"Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth y gweithredwr roi gweithdrefnau brys ar waith ar unwaith, gan anfon cynrychiolwyr i'r lleoliad i ddarparu cefnogaeth i'r rhai dan sylw a'r gwasanaethau brys.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys fel rhan o'n hymchwiliad."

Pynciau cysylltiedig