Tri chlwb Cymru trwodd i ail rownd Cwpan yr EFL
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson dda i dimau Cymru yng Nghwpan y Gynghrair Lloegr nos Fawrth, gyda'r tri yn ennill eu gemau yn y rownd gyntaf.
Llwyddodd Caerdydd i drechu Sutton United, roedd Abertawe yn fuddugol yn Reading, ac fe wnaeth Casnewydd ennill yn Ipswich.
Caerdydd 3-2 Sutton United
Cafodd yr Adar Gleision ddechrau trychinebus wrth i'r ymwelwyr fynd ar y blaen o fewn pedwar munud gyda gôl gan Donovan Wilson.
Ond daeth y tîm cartref yn gyfartal cyn hanner amser, gyda'r Cymro Marley Watkins sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb wedi iddo arwyddo cytundeb tymor byr tan ddiwedd Awst.
Ychwanegodd Watkins ail gôl i roi Caerdydd ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, cyn i Josh Murphy ychwanegu trydedd.
Er i Coby Rowe sgorio gôl hwyr i Sutton yn y munudau olaf, enw Caerdydd fydd yn yr het ar gyfer yr ail rownd.
Reading 0-3 Abertawe
Aeth yr Elyrch ar y blaen wedi chwarter awr, gyda pheniad Joel Latibeaudiere o gic gornel Yan Dhanda yn canfod cefn y rhwyd.
Ychwanegodd y Cymro Ben Cabango ail i'r ymwelwyr yn yr ail hanner gyda pheniad arall, cyn i Joel Piroe selio buddugoliaeth swmpus i Abertawe gydag ychydig dros bum munud yn weddill.
Ipswich 0-1 Casnewydd
Cafodd Casnewydd y dechrau perffaith wrth i Timmy Abraham eu rhoi ar y blaen o fewn pedwar munud.
Er i Ipswich, sydd adran yn uwch na'r Alltudion, daro'r postyn ddwywaith, llwyddodd y Cymry i ddal eu gafael yn y fuddugoliaeth.
I'r golwr Nick Townsend oedd y diolch am hynny, wrth iddo wneud sawl arbediad da i atal y tîm cartref.