Tudur Hallam yn ennill Cadair Eisteddfod Wrecsam

Dyma'r eildro i Tudur Hallam ennill y Gadair
- Cyhoeddwyd
Tudur Hallam sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.
Mewn seremoni llawn emosiwn, cododd y pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo'r bardd buddugol wrth i'r archdderwydd ei gyfarch.
Bu brawd Tudur, Gwion Hallam, hefyd yn annerch y pafiliwn i'w gyfarch gyda cherdd emosiynol.
Dyma'r eildro i Tudur Hallam dderbyn y wobr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn 2010.
Roedd 15 wedi cystadlu eleni - y nifer fwyaf ers 1989, a dywedodd y beirniaid y bu hi'n gystadleuaeth "anghyffredin o gref".
Cododd y pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo Tudur Hallam wedi iddo gael ei annerch gan yr Archdderwydd
Mae Tudur Hallam yn byw gyda'i wraig, Nia, a'u plant Garan, Bedo ac Edwy yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin.
Mae'n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe lle y bu'n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg.
Dywedodd yr Eisteddfod fod Tudur eisiau diolch i'w deulu a'i ffrindiau am bob arwydd o gariad a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ei gymuned, mae wedi mwynhau hyfforddi timoedd rygbi a phêl-droed, gan gynnwys tîm pêl-droed merched dan 14 oed Sir Gaerfyrddin.

Mae cerddi'r gadair yn rhai personol iawn am brofiad y bardd o gael diagnosis canser
Yn llenyddol, dywedodd Tudur fod ei ddyled yn fawr i'w athrawon yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Maes yr Yrfa, ei ddarlithwyr prifysgol yn Aberystwyth, y timau talwrn y bu'n aelod ohonynt, ei gyd-ddarlithwyr a'i fyfyrwyr yn Abertawe, ei gyfaill agos, Robert Rhys, ynghyd â'r Urdd.
Roedd ennill y Fedal Lenyddol a Chadair yr Urdd yn hwb i ddilyn gyrfa ym maes llenyddiaeth.
Yn 2010, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2019 cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Parcio.
Bu Gwion Hallam yn annerch y pafiliwn i gyfarch ei frawd gyda cherdd emosiynol
Wrth siarad ar S4C wedi'r seremoni, dywedodd Tudur Hallam nad oedd wedi gallu ysgrifennu am fisoedd ar ôl cael y diagnosis o ganser.
"Dwi wedi bod yn gymysglyd iawn, yn meddwl 'pam nes i gystadlu?'
"Ar y pryd, o'n i ddim yn siŵr a fydden i yma ym mis Awst.
"Ond gyda chefnogaeth meddygon, nyrsys, teulu, cariad... 'wi 'di 'neud hi a, ydw, dwi yn falch mod i wedi cystadlu.
"Dyddie' dwetha dwi 'di cael bach o hwyl wrth ddweud wrth pobl [am ennill y gadair] a nhw wrth eu bodd - a mae hynny wedi fy nghario i wedyn."
Wrth gyfeirio at Tudur Hallam, dywedodd y prifardd Gruffudd Owen, oedd hefyd yn y stiwdio: "'Da ni'n dda iawn fel Cymry am anrhydeddu ein prifeirdd ond dwi'm yn meddwl fod 'na unrhyw brifardd erioed wedi haeddu y fath gymeradwyaeth na chefnogaeth a ges di heddiw."
'Dwrn egr ym mhwll fy stumog'
Y dasg eleni oedd cyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol ar y testun 'Dinas'.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Peredur Lynch, Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis.
Yn ei feirnidaeth dywed Peredur Lynch: "Fe'm twyllwyd yn llwyr gan gywydd agoriadol yr awdl hon, a chredaf mai dyna oedd y bwriad.
"Yr ydym yng nghwmni tîm pêl-droed criw o ferched ysgol o Sir Gaerfyrddin, a'u hyfforddwr yw'r bardd.
"Y mae'r merched o'r gorllewin newydd gael eu curo gan dîm o Gaerdydd – o bob man! – mewn cystadleuaeth gwpan, a hynny yn y ffeinal.
"Wrth i mi ddarllen yr agoriad hwyliog hwn i'r awdl am y tro cyntaf, cystal cyfaddef fod fy ymateb greddfol rywbeth yn debyg i hyn: 'Difyr iawn, ond mae angen mwy na chywydd ysgyfala fel hwn i ennill Cadair y Genedlaethol'."

Peredur Lynch fu'n traddodi'r feirniadaeth o lwyfan y pafiliwn
Ychwanegodd: "Ac yna, wele droi at yr ail ganiad, ac mewn amrantiad derbyniais ddwrn egr ym mhwll fy stumog, sef y llinell 'Chwe mis? Deg mis? 'Chydig mwy?'
"Heb unrhyw baratoad, fe'n gwysiwyd fel darllenwyr gan y bardd o ganol cae pêl-droed i Ysbyty Glangwili lle mae'n derbyn diagnosis o gancr yr asgwrn a chancr ymledol (fe ymddengys) yn yr iau.
"Fe'm twyllwyd, meddwn i uchod. A thwyllwr yw bywyd. Ar gae pêl-droed yn llawn her a brafado un diwrnod; ein byd â'i ben i waered y diwrnod nesaf.
"Wrth benderfynu ar fuddugwr, dod yn ôl at Y gylfinir [ffugenw'r gwaith buddugol] a wnawn i o hyd ac o hyd. Felly y bu yn hanes fy nghyd-feirniaid."
Ysgrifennu'n 'gignoeth' am ei gyflwr ei hun
Ychwanegodd Menna Elfyn: "Mi wnes oedi'n hir cyn ysgrifennu fy ymateb i awdl Y gylfinir. Hir fyfyrio.
"A hynny am nad yw'n debyg i'r un awdl na phryddest a welwyd eisoes yn ennill Cadair na Choron yn y Genedlaethol.
"Canodd prifeirdd eraill am farwolaeth aelodau o deulu neu drasiedi angheuol cydnabod neu ffrindiau iddynt ond dyma'r tro cyntaf i mi ddod ar draws rhywun yn ysgrifennu am ei gyflwr ei hun a'i feidroldeb, yn gignoeth a heb arlliw o hunandosturi.
"Afraid dweud y caiff yr awdl hon ei darllen yn helaeth ac yn enwedig gan y rhai sy'n anghenus a newynog am farddoniaeth fel balm i'r galon mewn dyddiau geirwon.
"Dyna yw'r hyn y dylai barddoniaeth ei wneud sef ein hatgoffa ni, ie, ohonom ni ein hunain ac mae hon yn bendant yn rhoi gwefrau iasoer ond hefyd yn atsain yn orfoleddus beth yw byw a hynny o enau bardd sy'n canu o dannau tyn ei awen gain."
'Cân na fyddai neb byth yn gorfod dymuno'i chanu'
Dywedodd Llŷr Gwyn Lewis: "Rydym ein tri wedi mabwysiadu agwedd go Fethodistaidd rywsut at y gwaith gan inni dderbyn, yn ddigwestiwn bron, mai mynegiant geirwir o brofiad go iawn sydd yn yr awdl hon, ac nid ffrwyth y dychymyg.
"Fe allai fod hynny yn arwydd o rym a gonestrwydd y gwaith a'r modd y'n hargyhoeddodd yn llwyr (nid bod angen i'r math hwn o ganu 'argyhoeddi' chwaith).
"Mae synnwyr yn dweud bod rhaid i rywun geisio bod mor wrthrychol â phosibl, bod rhaid ystyried y gerdd yn ôl ei rhinweddau a'i haeddiant ei hun, a chau allan yr holl bethau eraill sydd yn hofran ar ymyl y ddalen.
"Er amhosibilrwydd gwneud hynny'n llwyr, bydded hysbys nad o drugaredd na thrueni y daethom i'n penderfyniad: y gerdd ei hun sydd yn mynnu'r clod, yr awdl ei hun sydd yn cipio'r anadl ac yn tynnu dagrau: y farddoniaeth sydd yn aros.
"Yn wir, byddai'n llawer llawer gwell gen i pe na bai Y gylfinir wedi gorfod cyfansoddi'r awdl hon o gwbl.
"Canodd gân na fyddai neb byth yn gorfod dymuno'i chanu: ond o'i chanu, fe'i canodd â grym croyw, cofiadwy, dirdynnol, gan dynnu ar ei holl gyneddfau fel bardd."

Mae'r gadair yn adlewyrchu pedwar prif dirnod sy'n ymwneud â Wrecsam
Bydd Tudur Hallam yn cael cadair sy'n rhoddedig gan Undeb Amaethwyr Cymru, Gogledd Ddwyrain Cymru a £750 yn rhoddedig gan Goleg Cambria.
Mae'r gadair wedi cael ei dylunio a'i chreu gan Gafyn Owen a Sean Nelson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl