Yr hunlle' eithaf... haf llawn chwaraeon!

  • Cyhoeddwyd
Beth AngellFfynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'gwneud' chwaraeon yn iawn... ond dydi Beth ddim yn rhy hoff o'i wylio

Mae hi wedi bod yn haf perffaith i gefnogwyr chwaraeon.

Yn ogystal â'r uchafbwyntiau arferol fel Wimbledon a'r Tour de France, roedd hefyd digon o ddigwyddiadau 'ychwanegol' eleni oherwydd Covid-19. Oeddech chi ymhlith y miliynau fu'n gwylio Euro 2020, taith y Llewod a'r Gemau Olympaidd?

Ond nid pawb sy'n gwirioni yn yr un modd. Un person sydd heb werthfawrogi'r holl gampau yw Beth Angell...

Codi llygaid o'r Kindle

Bydd unrhyw un sy'n fy adnabod yn gwybod mod i'n hoffi 'rwtîn'… Dwi'n un am drefn a does dim sy'n chwalu trefn fy mywyd fel digwyddiad chwaraeon.

Deud mawr, medda chi? Ydi beryg, ond mae'n wir.

Rhaid i mi fod yn gwbl onest, dwi ddim yn un am wylio chwaraeon. 'Na'i chwarae ond ddim gwylio. Ella, os ydi Cymru yn chware pêl-droed neu rygbi 'na i eistedd yn y stafell fyw a chodi fy llygaid o'r Kindle pan bydd y gŵr yn dechrau gwehyru. Ond dyna ddechrau a diwedd fy niddordeb.

GETTY
Mewn difri calon oes wir angen dangos gemau ar BOB sianel?"

Dwi 'di sôn am y gŵr, mae o'n hoffi chwaraeon. Sgrapiwch hwnna... mae o'n CARU chwaraeon a dim gwahaniaeth ganddo pa fath.

Rygbi, pêl-droed, athletau ac ati yn amlwg, ond mae ei awch chwantus am gystadleuaeth yn mynd tu hwnt i'r amlwg. Hwylio, judo, ceufadu... dwi wedi ei ddal yn gwylio twrnament hand-ball cyn heddiw, a tydi o ddim hyd yn oed yn gwybod y rheolau!

Gyda sianeli lloeren yn ennill hawliau chwaraeon mi oedd mynediad y gŵr i'r grochan anferth o arlwy cystadleuol yn cael ei reoli, fel mam yn cadw'r losin yn y cwpwrdd uchaf fel bo' dim modd i'r epil gyrraedd atyn nhw.

Ond yr haf yma, mae mam wedi taflu'r 'Pethau Da' ar hyd y llawr a datgan i'r plant bach barus i helpu eu hunain!

Wedi misoedd di-chwaraeon (ble bu'n gwylio hen gemau) sbardunwyd yr awch eto wrth i Gymru ddod yn bencampwyr y Chwe Gwlad. O leiaf, dwi'n tybio iddynt ennill gan fod o mewn hwyliau da ac yn hefru "C'mon, Yes" ar y teledu...

Ffynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o’r llun,

"Dyn yn ei oed a'i amser, mewn difri' calon!"

Ond doedd hi ddim yn teimlo fel bod chwinciad rhwng cadw'r crys rygbi ac estyn am y crys pêl-droed, wrth i'r Ewros ymddangos a disodli fy Nghoronation Street, Eastenders a Pobol y Cwm.

Gwylio pob gêm, trafodaeth a sylwad

Mewn difri calon, oes wir angen dangos gemau ar BOB sianel? Does dim angen i chi ymateb i hwnna achos, heb os, yr ateb ydi 'Nagoes siŵr… am syniad gwirion'. Ond ar fy marw, dyna oedd yn digwydd.

Wrth weld Cymru'n colli cefais rhyw syniad gwirion mai dyna fyddai diwedd y gwylio. Ond o na! Roedd rhaid gwylio pob gêm, pob trafodaeth a phob sylw am y gemau eraill hefyd.

Er, fe wna'i gyfaddef i fy angen i weld Lloegr yn colli yn y ffeinal fynd yn drech na fy nifaterwch am y gêm, ac mi wyliais y penalties i gyd!

Pe tai yr Ewros wedi cael eu cynnal llynedd, byddai petha' wedi bod yn ocê. Ond na, y munud ddaeth y pêl-droed i ben, daeth yr Olympics i'm byd… eto.

Chwaraeon ar bob sgrîn yn y tŷ ac ail-wylio pethau ar y we oedd wedi cael eu methu dros nos - aaaaaaa!

Fel petai hyn ddim yn ddigon i ddifetha' fy haf, roedd y Llewod hefyd ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Ni' ydi'r Llewod i ŵr Beth

Unrhyw esgus...

Rŵan, gofynnwch i'r gŵr pwy mae o'n gefnogi mewn unrhyw chwaraeon, a'r ateb yn ddiwahân fydd "Cymru", ond yn sydyn iawn yng nghanol pandemig mae'r Llewod a Team GB wedi troi yn 'Ni'.

Pan dwi'n codi'r mater yma yr ateb dwi'n gael ydi bod rhywun o Gymru yn eu hyfforddi neu ar yr un tîm neu yn "hanner cefnder i chwaer brawd ei dad oedd yn 'nabod Anti Magi oedd yn gweithio yn y post 'stalwm".

Mewn geiriau eraill fydd o wastad yn gallu ffeindio rhyw esgus i wylio'r chwaraeon.

Dwi 'di dod i ddeall na fedra'i ennill (bach fel tîm pêl-droed Cymru… rhy gynnar?) felly dwi am orfod cau fy ngheg a derbyn y bydd y gemau Paralympaidd ar y bocs am bythefnos yn fuan, a'r rygbi a phêl droed clwb yn ail-ddechrau.

Ond o leiaf gyda rhieny bydd fy sebonau nosweithiol yn eu cywir le, ond am faint bydd y nirvana yn para'? Achos fel ddudodd o wrtha'i ar ddiwedd yr Ewros - "Gwena, ma' hi'n Gwpan y Byd flwyddyn nesaf!"

Grêt, dwi methu aros.

Pynciau cysylltiedig