Y Bencampwriaeth: Blackpool 0-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor newydd yn y Bencampwriaeth wedi iddyn nhw gipio'r pwyntiau yn Bloomfield Road.
Mewn hanner cyntaf di-sgôr, fe darodd Aden Flint ergyd yn erbyn y postyn wrth i'r Adar Gleision ddechrau'n ddisglair.
Roedd y Cymro Chris Maxwell hefyd angen bod ar ei orau yn y gôl i Blackpool i arbed ergyd gan Ryan Giles ar draws y cwrt cosbi.
Daeth y gôl agoriadol wedi 52 munud, wrth i Leandro Bacuna ganfod ei hun wrth y postyn pellaf i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd yn dilyn peniad gan Sean Morrison o dafliad hir Marlon Pack.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda phedwar munud i fynd wrth i ymosodwr Cymru, Kieffer Moore - ddaeth ymlaen fel eilydd - benio'n wych o groesiad Giles.