Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-3 Stoke
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe yn dal yn aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Bencampwriaeth ers penodi'r rheolwr, Russell Martin ar ôl colli i Stoke mewn gêm galed yn Stadiwm Swansea.com nos Fawrth.
Yr eilydd, Joel Piroe, wnaeth sgorio unig gôl yr Elyrch wrth iddyn nhw geisio gau'r bwlch wedi i'r ymwelwyr sgorio deirgwaith.
Daeth gôl gyntaf y noson wedi chwarter awr o chwarae. Cysylltodd Nick Powell â chic rydd Tommy Smith o'r dde a phenio'r bêl yn nerthol i'r rhwyd, gan roi dim gobaith i'r golwr Steven Benda o'i hatal.
Gyda Stoke yn rheoli'r chwarae, roedd chwaraewyr yr Elyrch yn cael trafferth gadael eu hanner eu hunain o'r maes ar brydiau.
Roedd rhwystredigaeth y rheolwr Russell Martin yn amlwg, gan arwain at eilyddio tactegol cyn diwedd yr hanner cyntaf gyda Piroe'n dod ymlaen yn lle Yan Dhanda.
Cafodd yr Elyrch ddechrau addawol i'r ail hanner cyn i'w cyn-chwaraewr Sam Clucas ddyblu fantais Stoke wedi 53 o funudau - diweddglo symudiad a ddechreuodd wedi i'r tîm cartref ildio meddiant yn hawdd.
Roedd y gêm ar ben i bob pwrpas gyda hanner awr yn weddill, wedi i Leo Ostigard rwydo trydedd gôl Stoke o gic gornel Clucas.
Ond roedd yna hwb i'r cefnogwyr cartref pan beniodd Piroe o'r postyn, o groesiad arbennig gan Jake Bidwell, i'w gwneud hi'n 1-3 wedi 73 o funudau.
Mae Abertawe'n syrthio dau le yn y tabl i'r 21ain safle gyda phwynt yn unig wedi tair gêm.