Morgannwg yn curo Durham i ennill y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Glamorgan celebrateFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Morgannwg wedi llwyddo i ennill eu tlws cyntaf ers 2004 wedi iddyn nhw drechu Durham i ennill y Cwpan Undydd ddydd Iau.

Enillodd y Cymry o 58 o rediadau yn Trent Bridge yn Nottingham.

Y capten Kiran Carlson oedd y seren gyda'r bat, cyn i'r bowlwyr sicrhau'r fuddugoliaeth gyda phum pelawd yn weddill.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Forgannwg ennill y gystadleuaeth ar y ffurf yma, wedi iddyn nhw gael eu trechu yn y rownd derfynol ar dri achlysur yn y gorffennol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kiran Carlson oedd y seren gyda'r bat i Forgannwg

Ar ôl cael eu gorfodi i fatio gyntaf, llwyddodd Morgannwg i gyrraedd cyfanswm addawol o 296-9 o'u 50 pelawd nhw ar ôl dechrau simsan.

Y capten am y diwrnod, Kiran Carlson oedd y seren gyda sgôr o 82 oddi ar 59 pêl, ac fe gafodd gymorth gan Nick Selman (36) ac Andrew Salter (33).

Fe wnaeth Matthew Potts a Ben Raine gymryd tair wiced yr un i Durham.

Salter eto wnaeth argraff gyda'r bêl ar ddechrau batiad Durham, ac fe gymrodd dair wiced am 42 rhediad.

Sgoriodd Sean Dickson 84 heb fod allan, ond er cyfraniadau pwysig gan Graham Clark (40) a Cameron Bancroft (55), collodd saith o fatwyr eu wicedi am 10 rhediad neu lai.

Yn ogystal â Salter, roedd 'na ddwy wiced yr un i Lukas Carey a Joe Cooke.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd bowliwr Morgannwg Michael Hogan ei fod yn "deimlad rhyfeddol".

"Dwi wedi gweithio'n galed ers 17 o flynyddoedd am foment fel hyn, felly mae'n wych."

Salter gafodd ei enwi'n seren y gêm, a dywedodd wedyn bod y fuddugoliaeth "yn emosiynol" i'r tîm.

Pynciau cysylltiedig