Rhybudd stormydd i rannau o Gymru ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae stormydd o fellt a tharanau a glaw trwm yn debygol o ddod i rannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Daw'r rhybudd melyn i rym am 12:00 brynhawn Sadwrn, ac mae'n parhau weddill y dydd.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod siawns o lifogydd mewn mannau, yn dilyn cawodydd trwm o law a stormydd erbyn diwedd y bore ac i mewn i'r prynhawn.
Gall olygu 30-40mm o law o fewn dwy awr mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod oedi i deithwyr yn debygol.
Siroedd y dwyrain sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio, gyda'r rhybudd mewn grym i Ben-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Wrecsam a'r Fflint.
Er y rhybudd, dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd llawer o ardaloedd yn osgoi'r tywydd gwaethaf.