'Methu gorfodi chwaraewyr i gael brechiad Covid-19'
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwyr timau pêl-droed amlycaf Cymru'n dweud mai dewis i'w chwaraewyr yw penderfynu cael brechiad Covid-19 ai peidio.
Dywed rheolwr Caerdydd, Mick McCarthy na allai, ac na fydd yn gorfodi chwaraewyr y clwb i gael eu brechu, er i nifer ddal coronafeirws dros yr haf.
Nid yw ymosodwr Cymru, Kieffer Moore wedi dechrau gêm i'r clwb yn y Bencampwriaeth ers dechrau'r tymor wedi prawf positif.
Mae'r Cymro Rubin Colwill a Leandro Bacuna hefyd wedi cael y feirws.
Mae rheolwr Abertawe, Russell Martin hefyd yn dweud na fyddai'n rhoi pwysau ar ei chwaraewyr naill ffordd na'r llall.
Mae Llywodraeth y DU yn ystyried gorfodi pawb sy'n mynd i ddigwyddiadau chwaraeon gyda thorf dros 20,000 i ddangos prawf o ddiwedd Medi eu bod wedi cael dau ddos o'r brechlyn Covid-19 - cam allai hefyd fod yn berthnasol i chwaraewyr a staff clybiau pêl-droed.
"Gallwch chi ddim gorfodi unrhyw un i gael brechiad," meddai McCarthy, wrth i Gaerdydd baratoi am gêm gartref yn erbyn Millwall ddydd Sadwrn.
"Gallwch erfyn arnyn nhw i wneud, gan gadw mewn golwg os ydyn nhw'n dal y feirws ac yn gorfod hunan-ynysu byddan nhw'n colli gemau, byddan nhw allan o'r tîm, neith o gostio'n ariannol iddyn nhw...
"Mae hefyd yn effeithio ar eu cyd-chwaraewyr, mae'n effeithio ar bawb, popeth o fewn y clwb.
"Mae rhai wedi dweud ie ac mae rhai wedi dweud na. Eu dewis nhw yw e fel y dylai fod o ran iechyd unrhyw un."
Ychwanegodd: "Hoffwn i feddwl y byddai pawb yn dymuno cael e ond dyw pawb ddim. Dwi wedi cael brechiad, do'n i methu aros i'w gael. Do'n i ddim eisio bod yn sâl gyda Covid."
'Dewis personol'
Mae prif hyfforddwr Abertawe, Russell Martin hefyd yn credu mai dewis personol yw'r mater.
"Dydw i byth am roi unrhyw bwysau ar unrhyw un i fynd naill ffordd neu'r llall," meddai cyn i'w dîm wynebu Bristol City nos Wener.
"Fyswn i ddim yn gwneud hynny o ran unrhyw elfen arall o'u bywydau felly ni alla'i wneud yn yr achos yma chwaith.
"Dydw i ddim yn meddwl bod yna ffordd gywir neu anghywir o edrych arno felly bydd pob chwaraewr yn penderfynu beth maen nhw'n fodlon gwneud ac mi wnawn ni eu cefnogi.
"Os maen nhw'n dymuno fe, grêt. Os ddim, dim problem. Mae yna nifer go lew sydd wedi ei gael yn barod. Mae yna nifer sydd â'u barn eu hunain o ran peidio ei gael e."