Y Bencampwriaeth: Bristol City 0-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd Abertawe i ddal eu gafael a sicrhau eu triphwynt cyntaf o'r tymor yn y Bencampwriaeth ar ôl trechu Bristol City 1-0.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Russell Martin yn y gynghrair fel rheolwr Abertawe.
Roedd gôl yr Iseldirwr, Joel Piroe, ar ôl 20 munud yn ddigon i'r Elyrch nos Wener.
Fe lwyddodd Piroe i dorri i fewn o'r asgell dde ar ei droed chwith cyn taro ergyd yn erbyn y postyn.
Ond fe rwydodd ar yr ail gynnig wedi i'r bêl adlamu'n garedig yn ôl i'w lwybr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021