Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-1 Millwall

  • Cyhoeddwyd
Aden FlintFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Aden Flint ddwywaith o fewn pedair munud yng nghanol yr ail hanner

Am yr eildro mewn llai nag wythnos fe sgoriodd Aden Flint ddwywaith gan helpu sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd dros Millwall.

3-1 oedd sgôr terfynol gêm a daniodd go iawn yn y chwarter olaf, a hynny wedi cyfnodau digon blêr a chorfforol ar brydiau yn yr awr gyntaf.

Y capten Sean Morrison wnaeth sgorio trydedd gôl yr Adar Gleision.

Roedd yna bedwar newid i'r tîm a sicrhaodd pwynt munud olaf yn erbyn Peterborough nos Fawrth, gyda'r Cymry, Kieffer Moore, Rubin Colwill a Mark Harris yn arwain y llinell flaen.

Methodd Moore gyfle euraidd yn yr hanner cyntaf, gan amlygu rhyddhad pan gadarnhaodd llimanwr ei fod yn camsefyll beth bynnag, wedi iddo ddechrau gêm am y tro cyntaf ers cael coronafeirws cyn dechrau'r tymor.

Cyfartal ddi-sgôr oedd y gêm ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi i'r naill dîm na'r llall lwyddo i reoli'r chwarae.

Tebyg oedd patrwm yr ail hanner nes i Flint sgorio'i drydedd gôl o'r wythnos i roi Caerdydd ar y blaen wedi 66 o funudau. Peniodd y bêl i'r rhwyd o groesiad gwych gan yr eilydd Ryan Giles.

O fewn pedair munud roedd Flint a Giles wedi ailadrodd y gamp yn yr yn modd yn union, gan ddyblu mantais yr Adar Gleision.

Ond roedd gofyn am amddiffyn cadarn wedi i Benik Afobe rwydo i'r ymwelwyr gyda chwarter awr i fynd.

Bu Millwall ond y dim at unioni'r sgôr pan darodd ergyd cyn-chwaraewr Caerdydd, Scott Malone y trawst.

Ond yna, gyda saith munud o'r 90 yn weddill, peniodd yr amddiffynnwr Sean Morrison o groesiad Marlon Pack wneud hi'n 3-1.

Mae Caerdydd bellach ag wyth o bwyntiau wedi pedair gêm.