Cynnig profion gwrthgyrff i'r cyhoedd am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd profion gwrthgyrff yn cael eu cynnig i'r cyhoedd am y tro cyntaf ar draws y DU fel rhan o astudiaeth i ddarganfod i ba raddau y mae pobl yn cael eu gwarchod yn naturiol ar ôl dal coronafeirws.
Bydd miloedd o oedolion yn cael gwahoddiad i gael prawf bob diwrnod dan gynllun Llywodraeth y DU.
Bydd modd i unrhyw un dros 18 oed gymryd rhan wrth gael prawf PCR o ddydd Mawrth ymlaen.
O'r rhai sy'n cael canlyniad positif, bydd hyd at 8,000 yn derbyn dau brawf gwrthgyrff trwy'r post.
Rhaid cynnal y prawf cyntaf mor fuan â phosib yn dilyn y canlyniad positif, fel nad oes amser i'r corff fod wedi ymateb trwy greu digon o wrthgyrff y mae modd eu cofnodi.
Mae angen i'r ail brawf ddigwydd 28 yn ddiweddarach gan fesur y gwrthgyrff sy'n ganlyniad cael yr haint.
Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU sy'n gyfrifol am y rhaglen. Bydd yn cydweithio gyda gwasanaethau profi ac olrhain y GIG yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddefnyddio'r canlyniadau a monitro lefelau gwrthgyrff cleifion wedi canlyniad positif.
Dywed prif weithredwr yr asiantaeth, Dr Jenny Harries y bydd y cynllun yn rhoi "dealltwriaeth hanfodol" o'r rhaglen frechu a'r ymatebion imiwnedd i wahanol amrywiolion.
Mae gobaith hefyd y bydd yn arwain at wybodaeth ynghylch grwpiau penodol o bobl nad sy'n datblygu imiwnedd ar ôl iddyn nhw ddal Covid-19.
Mae profion gwrthgyrff wedi cael ei defnyddio eisoes ers dechrau'r pandemig ond mewn niferoedd cyfyngedig, yn bennaf fel rhan o astudiaethau neu arolygon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cytuno y byddai Cymru'n cymryd rhan yn y cynllun, a'u bod yn annog pobl dros 18 oed i dderbyn y gwahoddiad am brawf gwrthgyrff wrth gofrestru am brawf PCR.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021