'Angen i 80% gael imiwnedd' cyn i Covid stopio ymledu
- Cyhoeddwyd
Bydd angen i dros 80% o boblogaeth Cymru gael eu brechu rhag Covid-19 neu ddal yr haint er mwyn atal yr amrywiolyn Delta rhag ymledu, yn ôl gwyddonwyr y llywodraeth.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod hynny'n golygu "cydbwysedd" rhwng cyfyngiadau a brechiadau "am y dyfodol rhagweladwy".
Mae ymchwil gan swyddogion y llywodraeth wedi amcangyfrif bod y cyfyngiadau presennol yn costio £10m yr wythnos i economi Cymru.
Bellach mae dros 70% o boblogaeth Cymru wedi derbyn un dos o'r brechlyn, tra bod bron i hanner wedi cael eu hail ddos.
'Methu dibynnu'n llwyr'
Yn ôl ymchwil swyddogol o ddechrau mis Mehefin, mae gan tua wyth o bob 10 oedolyn yng Nghymru gwrthgyrff yn erbyn y feirws bellach.
Mewn papur a gyhoeddwyd ar 15 Mehefin, dywedodd grŵp o wyddonwyr sy'n cynghori Llywodraeth Cymru y byddai angen i 80% o'r boblogaeth gael imiwnedd, dolen allanol - drwy frechiad neu ddal yr haint - os am atal ymlediad pellach.
"Mae'n golygu na fyddai Cymru'n dibynnu'n llwyr ar yr brechlyn yn unig fel yr unig beth fyddai'n atal coronafeirws rhag mynd yn drech na'r gwasanaeth iechyd eto," meddai Mr Drakeford ar raglen BBC Politics Wales.
"Mae'r pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd, golchi dwylo, i gyd yn bethau sy'n amddiffyn yn erbyn coronafeirws, yn ogystal â brechiadau.
"Yn gyntaf mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen gyda'r rhaglen frechu a cheisio cyrraedd mor agos i'r 80% ag y gallwn ni.
"Y mwyaf 'dyn ni'n gwthio'r ffigyrau brechu lan, y gobaith yw bydd angen llai o gyfyngiadau.
"Ar hyn o bryd, cydbwysedd rhwng y ddau beth sydd ei angen."
Llai yn yr ysbyty
Ddydd Gwener fe benderfynodd Llywodraeth Cymru oedi cyn cyhoeddi unrhyw lacio sylweddol i'r cyfyngiadau Covid, a hynny yn dilyn rhybudd bod trydedd ton eisoes wedi dechrau.
Os ydy'r rheolau'n cael eu llacio fis nesaf, dywedodd Mr Drakeford mai un o'r ffactorau pwysig fyddai effaith cael y brechlyn ar atal pobl rhag mynd yn ddigon sâl i fod angen mynd i'r ysbyty.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi awgrymu bod cael brechlyn Pfizer yn 96% effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn Delta, gyda'r un AstraZeneca yn 92% effeithiol.
Dywedodd Mr Drakeford fod hwnnw'n "dystiolaeth dda" ond bod angen rhagor o ddata wedi i'r amrywiolyn ymledu ymhellach yn yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl ffigyrau swyddogol ar 17 Mehefin, dim ond 112 o gleifion yn ysbytai Cymru oedd yno'n gysylltiedig gyda Covid-19.
Ond dywedodd y Prif Weinidog fod angen gwylio'r ffigyrau hynny dros yr wythnosau nesaf i wneud yn siwr nad oedd yn tyfu i fod yn broblem fel yn y don gyntaf a'r ail.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi mynd yn sâl heb gael y brechlyn, ond mae dal nifer sylweddol o bobl sydd wedi cael un dos, a nifer fechan o bobl oedd wedi cael dau," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2021