Tân mawr ar safle cwmni teiars yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau tân wedi delio â thân "mawr" ar safle cwmni teiars yng nghanol Caerfyrddin.
Cafodd trigolion lleol gyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau wrth i fwg du ledu o'r safle yn Hen Ffordd Yr Orsaf.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru alwad tua 04:00 ddydd Sul.
Cafodd criw o Gydweli a dau griw o'r dref ei hun eu hanfon i'r safle, ynghyd â phlatfform achub o'r awyr o Dreforys a thancer dŵr o'r Tymbl.
Fe wnaeth criwiau hefyd ddefnyddio offer delweddu thermal.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ddechrau'r prynhawn bod ffyrdd cyfagos, a fu ar gau am gyfnod, wedi ailagor a'i fod bellach "yn ddiogel i drigolion lleol agor eu ffenestri unwaith yn rhagor".