Lle oeddwn i: Gorymdaith balchder hoyw, Caerdydd 1985

  • Cyhoeddwyd
Llun du a gwyn o bobl ar orymdaith ymwybyddiaeth pobl hoywFfynhonnell y llun, Francis Brown
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdaith ymwybyddiaeth hoyw Caerdydd, 1985, oedd un o rai cyntaf y byd

Ym mis Mehefin 1985 daeth criw o bobl at ei gilydd a gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd. Doedden ddim yn gwybod ar y pryd, ond hwn oedd un o orymdeithiau balchder hoyw cyntaf y byd.

Bellach, mae'r sefydliad Pride Cymru yn trefnu gorymdaith enfawr flynyddol drwy strydoedd y brifddinas dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst, sydd yn denu degau o filoedd o fynychwyr. Eleni, wrth gwrs, mae hi'n amhosib cynnal yr orymdaith, ond mae digwyddiadau Pride 2021 dal ymlaen.

Roedd Francis Brown yn un o'r criw bach gwreiddiol hynny nôl yn yr 80au, sydd dal i gofio'r diwrnod a'r dylanwad a gafodd ar ei ymdeimlad o falchder.

Mehefin 1985 oedd fy ngorymdaith gyntaf. Syniad Tim Foskett oedd hyn ac fe gynigodd yr awgrym i Gymdeithas Hoyw'r Brifysgol yma yng Nghaerdydd.

Roedd y rhan fwyaf ohonon ni yn credu ei fod yn syniad gwirion. Ond, roedd Tim yn berson carismatig ac roedd ganddo'r ddawn o annog pobl a gwneud iddyn nhw i wneud pethau bydden nhw ddim fel arfer yn ei wneud.

Nes i ddim deall ar y pryd, ond dyma oedd un o orymdeithiau hoyw cyntaf y byd. Cyn hynny dim ond 10 oedd wedi bod, sydd yn syndod. Roeddem eisiau cynnal yr orymdaith i gofio terfysgoedd Stonewall yn Efrog Newydd yn 1969 - y digwyddiad wnaeth lansio'r mudiad Pride yn rhyngwladol.

Francis Brown
Os wyt ti'n homoffobig heddiw, ti yn yr lleiafrif diolch byth."

Francis Brown (chwith) mewn gorymdaith yn yr 80au

Doedd dim llawer ohono ni, tua 20! Fe gwrddon ni yn nhafarn y Kings Cross [The Corner House heddiw] amser cinio ar y dydd Iau. Fe gerddon ni lawr Heol y Frenhines yn gweiddi a chwifio baneri. Roedd rhai o'r cyhoedd yn edrych yn gas ac fe gafon ni sylwadau gan eraill, ond wnaeth neb ymosod arno ni, oedd yn syrpreis braf.

Roedd gan lawer o bobl LDHT yn y gorymdeithiau cynnar hynny ansicrwydd o fod yn agored a chael eu gweld yn gyhoeddus. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl ofn i'w teuluoedd ffeindio mas neu golli swydd.

Ers i'r deddfau newid a mwy o bobl gyda phroffil uchel ddod mas, dwi'n credu ei fod yn cael ei dderbyn yn well. Os wyt ti'n homoffobig heddiw, ti yn yr lleiafrif diolch byth.

Ffynhonnell y llun, Francis Brown
Disgrifiad o’r llun,

Francis Brown heddiw

Nerfus, cyffrous ac ofnus

Yn syth ar ôl yr orymdaith gyntaf fe aethom ni i undeb y myfyrwyr a meddwi! Roeddwn i'n teimlo'n nerfus, cyffrous ac ofnus.

Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd gorymdaith arall gyda llawer mwy yn mynychu - tua 100 o bobl. Erbyn diwedd yr 80au roedd yna orymdeithiau yn erbyn Cymal 28 (deddf oedd yn gwrthwynebu hyrwyddo perthnasau hoyw) a ddenodd tua phedair mil o bobl. O ystyried y cyfnod, mae'n anodd credu'r ffigwr yma.

Ffynhonnell y llun, Francis Brown
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdaith y mynychodd Francis yn erbyn Cymal 28 (Cymal 27 oedd y teitl gwreiddiol arno)

Roedd llawer o'r bobl oedd ar y gorymdeithiau hynny ddim yn rhan o'r gymuned LDHT, ond hytrach yn heterorywiol ac eisiau dangos cefnogaeth.

Mae mwy o gefnogaeth gan bobl o bob cefndir erbyn hyn, a'r heddlu yn enwedig. Pumdeg mlynedd yn ôl doedd y gymuned hoyw a'r heddlu ddim yn cydweld. Mae'n anodd cymharu sut mae pethau nawr i beth oedd e.

Pride mor bwysig ag erioed..

Mae pethau wedi tyfu'n aruthrol yn y 25 mlynedd diwethaf, yn enwedig ers i Haydn Price (un o sefydlwr Pride Cymru) a'i dîm gynnal yr orymdaith gyntaf yn 1999. Mae penwythnos gŵyl y banc ym mis Awst wedi tyfu a thyfu. Cyn y pandemig roedd bron i 100,000 o bobl yng Nghaerdydd ar gyfer penwythnos Pride.

Mae 20,000 i 50,000 yn rhan o'r gorymdeithiau erbyn hyn. Mae'n newid syfrdanol! Mae'r gorymdeithiau mor bwysig ag erioed - mae dal yn rhwystr i bobl ifanc i ddod mas.

Mae gweld miloedd o bobl LDHT o gwmpas y gorymdeithiau yn rhoi hyder a gobaith i bobl ifanc i beidio bod ofn.

Ond er fod y sefyllfa yng Nghymru a gweddill Prydain wedi gwella, does dim angen teithio'n bell i weld gwledydd ble nad oes gan bobl LHDT hawliau. Mae pobl wedi cael eu carcharu a hyd yn oed eu lladd, yn syml am fod eu hunaon.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd ar filoedd o bobl yn rhan o orymdaith flynyddol Pride Cymru yng Nghaerdydd

Pan dwi'n rhan o'r orymdaith dwi'n hapus. Dwi'n teimlo'n hyderus ac ydw, rwy'n falch.

Ni fyddai hynny'n wir oni bai fod pobl, fel yn nherfysgoedd Stonewall, wedi sefyll lan dros eu hawliau. Rydym ni'n ddyledus iddyn nhw.

Dydy penwythnos Pride heb ddigwydd dros y blynyddoedd diweddaraf oherwydd Covid, ond eleni, dwi'n helpu mewn digwyddiad yn nhafarn St Canna yn Nhreganna.

Ni fydd pandemig hyd yn oed yn ein hatal ni rhag teimlo PRIDE!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig