Bygythiad a balchder; newid agweddau at y gymuned hoyw
- Cyhoeddwyd
Wrth i Pride Cymru gynnal Wythnos fawr ar-Lein, yr awdur Mike Parker sy'n trafod sut mae agweddau tuag at y gymuned LDHT wedi newid, a hynny'n cael ei adlewyrchu yn nigwyddiadau Pride dros y blynyddoedd.
Yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni, fe enillodd Mike Parker wobr llyfr creadigol ffeithiol orau am stori o gyfeillgarwch rhwng dau gwpwl hoyw ym Mhowys. Ugain mlynedd yn ôl fe gafodd ei fygwth gan gynghorydd am feiddio 'sgwennu erthygl am elfennau hoyw ym mywyd a diwylliant Cymru.
"Mae pethau wedi newid lot," meddai'r awdur wrth Cymru Fyw. "Dwi'n cofio ar ôl sgwennu'r erthygl roedd stori yn y papur newydd a'r pennawd oedd 'English writer creates a slur on nation' - ac roedd y cynghorydd Llafur yma o'r Valleys yn dweud 'If I met him I would hit him'.
"Mewn un brawddeg mae'n dangos faint sydd wedi newid. Byddai unrhyw gynghorydd fyddai'n gwneud bygythiad fel yna rwan allan mewn eiliadau, ond ar y pryd roedd yn hollol dderbyniol."
Roedd hynny yn ôl yn 1998. I nodi dathliadau ar-lein Pride Cymru'r wythnos yma, yn hytrach na darllen dyfyniad papur newydd yn bygwth trais tuag ato roedd ei enw ar restr y 100 person mwyaf dylanwadol yng Nghymru o fewn y gymuned LHDT (Lesbiaid, Howyon, Deurywiol, Traws), a hynny i raddau helaeth oherwydd llwyddiant ei lyfr On The Red Hill.
Ac mae'r awdur, sy'n byw yn ardal Machynlleth, yn dweud bod y newid mewn agwedd cymdeithas yn cael ei adlewyrchu yn nigwyddiadau Pride, mudiad ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau hanner can mlynedd yn ôl yn dilyn protestiadau dros hawliau cyfartal.
Yn ôl Mike Parker, sy'n wreiddiol o Kidderminster, yn ystod yr 1970au a dechrau'r 1980au roedd agweddau cymdeithas wedi dechrau gwella, ond newidiodd popeth gydag AIDS.
"Pan nes i ddod allan yn hoyw, ro'n i yn y Brifysgol yn Llundain ar ddiwedd yr 80au. Roedd yn gyfnod epidemig AIDS ac roedd y pethau oedd yn cael eu dweud yn y papurau poblogaidd fel The Sun a'r Mail mor homophobic. Roedd yn gyfnod anodd iawn i'r gymuned."
Yn 1988 fe wnaeth llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher gyflwyno cymal dadleuol 'Section 28', cyfraith fyddai'n gwahardd awdurdodau lleol rhag 'hyrwyddo' perthynas cyfunrywiol ac ysgolion rhag 'hyrwyddo' cyfunrywioldeb fel perthynas deuluol dderbyniol.
Ymateb nifer oedd protestio - a dyna wnaeth Mike Parker, gan fynd ar orymdaith Pride am y tro cyntaf, a hynny yn Llundain.
"Y flwyddyn cyn hynny roedd 6,000 o bobl wedi mynd i Pride - ond y flwyddyn wedyn roedd 60,000," meddai. "Roedd wedi tyfu 10 gwaith mewn blwyddyn oherwydd roedd pobl fel fi yn meddwl 'os mai dyna lle ydan ni o ran hawliau a'n lle mewn cymdeithas rydan ni am brotestio'.
"Be' sy'n rhoi gobaith i fi ydi os ydi pobl yn fwy homophobic maen nhw'n cael effaith fel arall ac mae'r protestio yn tyfu."
Dim ond yn Llundain oedd digwyddiadau Pride yn cael eu cynnal ym Mhrydain am rai blynyddoedd, ond erbyn hyn maen nhw'n digwydd mewn nifer o ddinasoedd a threfi, ac mewn gwledydd ar draws y byd.
Pan oedd o'n byw yn Birmingham yn yr 1990au, roedd Mike Parker yn rhan o'r criw wnaeth sefydlu diwrnod Pride yn ail ddinas fwyaf Prydain. Dywed bod awyrgylch y digwyddiadau erbyn hynny wedi datblygu i fod yn gyfuniad o brotestio a dathlu, a bod y ddwy elfen yn bwysig:
"I bobl sydd ar y cam cynta' o ddod allan o'r closet, mae gweld miloedd o bobl yn yr un sefyllfa a chdi mor gadarnhaol. Dwyt ti ddim ar ben dy hun."
"Dwi'n cofio'r teimlad yn Llundain yn yr 1980au - pan ti'n mynd i Pride mae'r Tube carriages yn mynd yn llawnach a llawnach wrth ddod yn agosach efo pobl sy'n mynd yno. Mae'n bwysig - yn enwedig yn yr 80au pan roedden ni yn erbyn rhan fawr o'r farn gyhoeddus a'r papurau yn llawn dop o bethau erchyll ac yn gwneud i ni deimlo ein bod ni'n wrong.
"Mae o'n llawer mwy commercial rŵan a 'da ni wedi colli ychydig o'r syniad o brotest. Ond mae dal lot o bethau gwleidyddol i'w gwneud ac mae'n rhaid cofio bod y sefyllfa ledled y byd mewn cymaint o wledydd yn ofnadwy i bobl hoyw a LGBTQ."
Tro diwethaf iddo fod mewn digwyddiad Pride oedd yng Nghaerdydd tua phum mlynedd yn ôl lle'r oedd yn teimlo "ychydig yn hen".
Mae o'n fodlon aros yng nghefn gwlad Cymru'r dyddiau yma, lle mae o wedi teimlo'n gartrefol ers iddo symud yno o Birmingham 20 mlynedd yn ôl, er gwaetha pryderon ei ffrindiau.
Dyma ble mae ei lyfr On the Red Hill wedi ei leoli, ac mae'n ddathliad o'i gartref ger pentref Darowen, cymuned ardal Machynlleth a chyfeillgarwch Mike a'i bartner Peredur, gyda Reg a George, cwpwl hoyw oedrannus fu'n byw yn yr ardal ers yr 1970au.
Mae'n dweud eu bod hwythau hefyd wedi cael eu derbyn gan y gymuned, yn rhannol oherwydd anwyldeb Reg. Mae hynny'n cyd-fynd efo'i brofiad o pan symudodd i Bowys o Geredigion.
Roedd ei gymdogion newydd yn gwybod yn barod ei fod yn hoyw, a sut berson oedd o, ac mae'n dweud bod y ffaith iddo gael ei dderbyn yn rhwydd yn dangos - er gwaetha protestiadau un cynghorydd dau ddegawd yn ôl - nad rhywbeth newydd ydi cyfunrywioldeb yng Nghymru.
"Mae pobl hoyw wastad wedi bod yng nghefn gwlad - 'hen lanc a'i ffrind'," meddai.
"Pan nes i symud dwi'n cofio bod yn ddiolchgar i'r ffordd ma newyddion yn lledaenu yng nghefn gwlad achos doedd dim rhaid i mi 'ddod allan' - roedd y gwaith yna wedi ei wneud i mi.
"Ond y peth pwysicaf iddyn nhw oedd os oeddwn i'n foi ok ac os oeddwn i'n berson oedd werth ei gael yn y gymuned. Roedd y ffaith mod i'n hoyw yn incidental - fel y ffaith bod gen i lygaid glas."
Hefyd o ddiddordeb: