Cwpan yr EFL: Casnewydd 0-8 Southampton

  • Cyhoeddwyd
Armando Brojo'n sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Armando Brojo ddwy o'r goliau yn erbyn Casnewydd nos Fawrth

Roedd hi'n noson drychinebus i Gasnewydd yn eu gêm gartref gyntaf o'r tymor wrth iddyn nhw adael Cwpan y Gynghrair wedi cweir gan Southampton.

Roedd yr Alltudion ar y droed ôl o'r dechrau wedi i Armando Broja, sydd ar fenthyg o Chelsea, roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi naw munud.

Roedd hi'n 0-3 erbyn yr egwyl wedi goliau Nathan Tella a Kyle Walker-Peters, ac roedd y bwlch rhwng y ddau dîm yn gwbl amlwg.

Ac fe chwalwyd unrhyw obaith o geisio gwneud gêm ohoni'n fuan yn yr ail hanner.

Sgoriodd Mohamed Elyounoussi ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner cyn i Broja sgorio'i ail o'r noson.

Wedi awr o chwarae roedd hi'n 0-6 a doedd y gwrthwynebwyr o'r Uwch Gynghrair heb ddarfod eto.

Fe rwydodd Nathan Redmond cyn i Elyounoussi sgorio eto am hat-tric, gan goroni perfformiad cofiadwy yn ei gêm gyntaf i Southampton mewn dros ddwy flynedd.

Dyma'r fuddugoliaeth fwyaf oddi cartref yn hanes Southampton.

Ar ôl curo Plymouth Argyle 4-1 nos Fawrth bydd Abertawe'n wynebu Brighton oddi cartref yn y drydedd rownd.