Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Bristol City
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi colli eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Bristol City yn y brifddinas ddydd Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wedi 21 munud wrth i Andreas Weimann sgorio ar ôl manteisio ar ansicrwydd rhwng Aden Flint a'r golwr Dillion Phillips yn yr amddiffyn.
Bu bron i Kieffer Moore ei gwneud hi'n gyfartal funudau'n unig yn ddiweddarach ond llwyddodd Cymro arall, Andy King i glirio'r bêl oddi ar y llinell gôl.
Wedi awr o chwarae daeth gôl gan y tîm cartref, gyda'r golwr Daniel Bentley yn anlwcus i sgorio i'w rwyd ei hun ar ôl i'r bêl gael ei chlirio oddi ar y llinell gôl unwaith eto a tharo'r golwr cyn mynd i'r rhwyd.
Ond 10 munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Bristol City y gôl fuddugol wrth i Weimann gael ei ail gydag ergyd wych o groesiad Antoine Semenyo.