Y Bencampwriaeth: Preston North End 3-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Emil Riis Jakobsen roddodd Preston ar y blaen ym munud olaf yr hanner cyntaf
Fe barhaodd ddechrau siomedig Abertawe i'r tymor ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref gan Preston North End.
Daeth gôl gyntaf y prynhawn i'r Elyrch, gyda Joel Piroe yn sgorio yn dilyn gwaith ardderchog gan Liam Cullen i greu'r cyfle.
Ond o fewn dau funud yn unig roedd Preston yn gyfartal wrth i Sepp van den Berg rwydo, cyn i Emil Riis Jakobsen eu rhoi ar y blaen ym munud olaf yr hanner cyntaf.
Aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda Ben Whiteman yn sgorio o gic rydd, gan selio'r fuddugoliaeth i Preston.