Morgannwg ar ei hôl hi yn y bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd
Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 134 o rediadau ar fore cyntaf gêm yn erbyn Essex yn y bencampwriaeth.
Dim ond pedwar o'r batwyr gyrhaeddodd sgôr mewn ffigyrau dwbl wrth i Shane Snater gymryd chwe wiced i Essex.
Dan Douthwaite oedd y prif sgoriwr i Forgannwg ar 39.
Er i Forgannwg lwyddo i gymryd wiced Alastair Cook yn gynnar ym matiad Essex, sgoriodd Nick Browne 50 heb fod allan.
Gorffennodd Essex y diwrnod ar 92-2, 42 y tu ôl i Forgannwg gydag wyth wiced yn weddill.