Morgannwg yn wynebu colled yn erbyn Essex

  • Cyhoeddwyd
cricedFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Porter gipiodd wiced Hamish Rutherford yn yr ail fatiad

Gyda dau ddiwrnod o chwarae'n weddill, mae Morgannwg yn edrych yn debyg o golli eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.

Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail ddiwrnod ar 92 am 2 wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 134.

Diolch i gyfraniadau sylweddol Nick Browne (102) a Michael Pepper (63) fe lwyddon nhw i gyrraedd cyfanswm o 320 - mantais o 186.

Ond roedd ail fatiad Morgannwg yn drychinebus o'r cychwyn gyda'r ddau fatiwr agoriadol - Hamish Rutherford a David Lloyd - yn gadael heb sgorio.

Ar un cyfnod roedd y tîm cartref yn 29 am 6 wiced cyn i Chris Cooke ac Andrew Salter sefydlogi pethau rhyw fymryn.

Er hynny, erbyn diwedd y dydd roedd Morgannwg ar 71 am 6, ac felly'n dal 115 ar ei hôl hi gyda phedair wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig