Oedi wrth i lori daro pont reilffordd ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Lori ar bridge

Mae'r A487 ym Machynlleth ar gau yn dilyn gwrthdrawiad lori a'r bont reilffordd.

Mae peirianwyr Network Rail ar y safle ar hyn o bryd yn asesu difrod strwythurol posib i'r bont.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle toc wedi 07:00 fore Mercher.

Dyw gyrrwr y lori ddim wedi ei anafu.

Roedd y lori yn gadael safle Alun Griffiths Construction sydd wedi dechrau gwaith ar bont newydd Machynlleth.

Yn ôl llygad-dystion, doedd y trelar ar gefn y lori ddim wedi ei ostwng mewn pryd cyn croesi o dan y bont.

Mae Heddlu Dyfed Powys ar y safle ynghyd â swyddogion Cyngor Sir Powys.

Ar y ffordd, mae cerrig a rwbel wedi cwympo o'r bont i'r A487 ac mae olew hydrolig wedi ei golli o'r cerbyd.

Ar ôl i'r olew gael ei glirio, mae Heddlu Dyfed Powys yn gobeithio gallu ailagor y ffordd.

Mae'n debygol y bydd y linell reilffordd ar gau am gryn amser wrth i'r gwrthdrawiad amharu ar wasanaethau trên rhwng Machynlleth, Cyffordd Dyfi, Borth ac Aberystwyth.

Mae cwmni Lloyds Coaches, sy'n rhedeg gwasanaethau bysiau cyhoeddus o Fachynlleth, yn rhybuddio bod y digwyddiad wedi cael effaith ar holl wasanaethau yr ardal.

Pynciau cysylltiedig