Morgannwg yn colli ar fore'r trydydd diwrnod

  • Cyhoeddwyd
chris cookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chris Cooke oedd prif sgoriwr Morgannwg yn eu hail fatiad gyda 47 hfa

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex o fatiad a 74 rhediad wedi ychydig dros ddeuddydd o chwarae yng Nghaerdydd.

Roedd talcen caled yn wynebu Morgannwg fore Mercher wrth iddyn nhw ddechrau 115 y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Essex gyda dim ond pedair wiced yn weddill yn eu hail fatiad.

Ac o ddechrau ar 71 am 6, fe aeth pethau'n waeth wrth i Andrew Salter a Timm van der Gugten golli eu wicedi wrth ychwanegu dim ond saith i'r cyfanswm yna.

Llwyddodd Lukas Carey i aros yn y canol gyda'r capten Chris Cooke am ychydig, gan ychwanegu 34 o rediadau am y nawfed wiced, ond pan aeth Carey, fe ddisgynnodd wiced Michael Hogan i'r belen nesaf gan adael Cooke ar 47 heb fod allan.

Morgannwg v Essex - Y sgôr terfynol

Morgannwg - batiad cyntaf = 134; ail fatiad = 112

Essex - batiad cyntaf = 320

Essex yn fuddugol o fatiad a 74 rhediad

Pynciau cysylltiedig