Y gwibiwr ifanc 'sy'n un i gadw golwg arno'
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r Gemau Paralympaidd barhau yn Tokyo, mae un Cymro ifanc yn anelu at gynrychioli Prydain ar y lefel uchaf yn y dyfodol.
Mae Tomi Roberts-Jones, sy'n 15 oed ac o Gaerdydd, yn byw gyda pharlys yr ymennydd sy'n effeithio ar ei allu i symud - ond dyw hynny heb ei rwystro rhag llwyddo wrth redeg rasys 100 medr.
Mae eisoes wedi cael llwyddiant wrth gynrychioli Cymru yn y Bencampwriaeth Athletau Iau Genedlaethol ac mae ar fin cystadlu yng Ngemau Ysgolion 2021.
"Dechreuais i redeg gan fynd i ddiwrnod agored bum mlynedd yn ôl," meddai. "Sa' i 'di edrych yn ôl ers hynny."
Mae'n hoffi rhedeg rasys 100 medr yn benodol oherwydd "mae e'n gloi a mae o drosodd cyn bo' ti'n gw'bod".
A'i freuddwyd un diwrnod yw cyrraedd y Gemau Paralympaidd ac ennill medal aur.
"Ges i fedal aur yn Yr Almaen, aur yn Loughborough," ychwanegodd. Mae'n gobeithio ychwanegu medal y Gemau Paralympaidd at ei gasgliad - "ddim yn y gemau nesaf ond gobeithio y gemau ar ôl hynna".
Yn ôl mam Tomi, Wendy Roberts-Jones, "mae rhedeg wedi bod yn bwysig iawn i Tomi yn ei fywyd".
"Mae e wastad wedi mwynhau chwaraeon, dyw e ddim yn un sy'n sefyll nôl a gadael i bobl eraill gymryd rhan, mae e yn ei chanol hi gyda nhw," meddai.
Ychwanegodd fod yna fuddion corfforol a meddyliol i wneud y fath hon o ymarfer corff.
"O ran ei gorff e mae e'n cadw ei gorff e'n ystwyth iawn, ac yn feddyliol hefyd mae e'n dda, mae'n e'n rhoi hunanhyder i Tomi ac mae e'n rhoi ffocws i Tomi."
Ychwanegodd: "I weld Tomi'n cyflawni ac yn mwynhau chwaraeon shwd gymaint â bod e'n hapus yn cyflawni ei llawn botensial, mae e'n ffantastig."
'Un i gadw golwg arno'
Cyn y pandemig, roedd Tomi'n arfer hyfforddi deirgwaith yr wythnos ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.
Ers i'r cyfyngiadau coronafeirws lacio, mae bellach wedi ailddechrau hyfforddi yno ddwywaith yr wythnos.
Ei hyfforddwr yw'r cyn-wibiwr Paralympaidd, Morgan Jones, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
"Mae Tomi wedi cofnodi PB [ei berfformiad gorau erioed] yn ei rasys ym mhob blwyddyn y mae wedi cystadlu," dywedodd.
"Yn fwyaf aruthrol, eleni - er gwaethaf cyfnodau clo a methu cael mynd i drac, fe dociodd cryn dipyn o'i amser gorau yn ei ras 100 medr gyntaf.
"Mae Tomi yn bendant yn rhywun i gadw golwg arno, ond rwy'n meddwl bod hynny'n wir am yr holl athletwyr. Mae pob un â rhywbeth yn eu cylch sy'n dweud wrtha'i y gallen nhw fynd yn eu blaenau a llwyddo."
Budd gweithgaredd chwaraeon
Dywed Gemma Cutter o Chwaraeon Anabledd Cymru bod hi'n bwysig i athletwyr gael defnyddio adnoddau chwaraeon, beth bynnag eu gallu - rhywbeth sydd wedi bod yn her yn ystod cyfnodau clo'r pandemig.
"Rydym wedi clywed gan bobl fel Tomi, sydd wedi datgan pa mor bwysig oedd [ailagor adnoddau] iddo," meddai.
"Ni allwch fesur effaith hynny - ar fudd corfforol a meddyliol cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon.
"I bobl anabl mae hynny wedi cael ei golli yn ystod y cyfnod hwnnw - nid yn achos pawb, ond yn sicr yn achos rhai.
"Felly mae dychwelyd i ganolfan - mae'n bwysig eu bod ar agor unwaith yn rhagor a bod pobl â'r hyder eu bod yn gallu dychwelyd yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021