Dysgu mwy am weithiau celf o ardal y Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Ystad Ernest Zobole/ Amgueddfa CymruFfynhonnell y llun, Ernest Zobole/Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

People and Ystrad Rhondda gan Ernest Zobole

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithio gyda dwy o amgueddfeydd y Cymoedd ar gynllun newydd i ddysgu mwy am weithiau celf o'r ardal.

Y bwriad yw rhoi cyfle i bobl leol rannu eu hymateb nhw i ffotograffau a lluniau o'r ardal sydd yng nghasgliad yr amgueddfa.

"Rai blynyddoedd yn ôl, fues i'n gweithio gydag ysgolion o'r ardal," meddai pennaeth addysg Amgueddfa Cymru, Eleri Wyn Evans.

"A phan o'n i'n dangos rhai o'r lluniau iddyn nhw, oedden nhw'n aml iawn yn gallu dweud mwy wrtha' i nag o'n i'n gallu dweud wrthyn nhw am y gweithiau celf."

Dywedodd bod y profiad wedi sbarduno syniad bod gan dipyn o bobl yn yr ardal storïau i'w dweud ynglŷn â'r casgliadau celf sydd gan yr amgueddfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gus Payne yn gobeithio y bydd y cynllun yn denu mwy o ymwelwyr i Amgueddfa Cyfarthfa

Mae Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr ac Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn rhan o'r cynllun hefyd.

Yn ôl Gus Payne o Amgueddfa Cyfarthfa, mae'n gobeithio bydd y cynllun yn annog mwy o bobl ardal Merthyr i ymweld â'r safle.

"Y prif syniad i fi yw i atgoffa pobl am y straeon ynglŷn â Merthyr a Dowlais [sydd yn y gweithiau celf] a'u bod yn meddwl eu bod yn perthyn iddyn nhw," meddai.

"Gobeithio bydd yn tynnu lot mwy o bobl o Ferthyr a dros y Cymoedd."

Ffynhonnell y llun, David Hurn/Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Rhondda Valley, Monday Wash Day (1972) gan David Hurn

Mae artistiaid wedi'u denu i'r cymoedd ers canrifoedd - i ddarlunio'r tirwedd ac effaith diwydiant ar yr ardal a'i phobl.

"Mae 'na gyfoeth o bethau gweledol - o gelf weledol - wedi dod allan o'r cymoedd," meddai Eleri Wyn Evans.

"Roedd Turner wedi'i ddenu i'r tirwedd yn y cymoedd, roedd gwneuthurwyr ffilm wedi cael eu denu yno."

Ffynhonnell y llun, W. Eugene Smith/Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Three Generations of Welsh Miners (1950) gan W Eugene Smith

Fe fydd swyddog yn cael ei benodi i weithio yn y gymuned fel rhan o'r cynllun, fydd yn para tair blynedd.

Y nod, meddai Ms Evans, yw ailddweud stori'r Cymoedd gyda chymorth pobl yr ardal.

"'Dan ni'n gallu dweud rhan o'r stori, maen nhw'n gallu dweud rhan arall o'r stori - ond os da ni'n dod â chasgliadau o'r llefydd yma at ei gilydd, da ni falle'n gallu dweud stori mwy cyflawn."