Pump yn yr ysbyty wedi 'ymosodiad' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae pump o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty wedi adroddiad o ymosodiad yng Nghaerdydd.
Cafodd pedwar person yn eu harddegau ac un dyn 20 mlwydd oed eu cymryd i'r ysbyty, cyn cael eu rhyddhau'r un diwrnod.
Yn ôl Heddlu De Cymru cafodd y pump "anafiadau arwynebol" yn dilyn digwyddiad ar City Road tua 14:45 brynhawn Sul.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi danfon tîm ymateb ardaloedd peryglus i'r ardal ac wedi cludo dau berson i'r ysbyty.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai amonia, sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio mewn cynnyrch glanhau, gafodd ei defnyddio yn ystod yr ymosodiad.
Mae'r heddlu'n awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig lluniau ffôn symundol neu dashcam all fod o fudd i'w hymchwiliad.
Fe gaeodd yr heddlu'r ffordd, sy'n agos i ganol y ddinas, am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.
Roedd yna hefyd apêl yn gynharach i bobl gadw draw o'r sardal nes eu bod wedi delio gyda'r digwyddiad.