Bowlwyr Durham yn cael y gorau ar Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Chris RushworthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bowliwr Durham, Chris Rushworth

Cafodd Morgannwg eu chwalu gan Durham ar ddiwrnod cyntaf eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

97 yn unig oedd cyfanswm y tîm o Gymru, a fatiodd yn gyntaf, wedi 32 o belawdau.

Roedd hynny er iddyn nhw gofnodi sgôr o 63 cyn colli eu wiced gyntaf, gyda Hamish Rutherford yn sgorio 43 o'r rhediadau.

Roedd hi'n brynhawn llwyddiannus felly i fowlwyr Durham - Chris Rushworth (3-26), Ben Raine (3-25) a Paul Coughlin (4-11) .

Aeth Durham ymlaen i sgorio 223-3, gan gynnwys canred yn sgil y bartneriaeth rhwng y batwyr agoriadol Michael Jones (81) ac Alex Lees (55).

Pynciau cysylltiedig