Ateb y Galw: Yr awdur Ion Thomas

  • Cyhoeddwyd
Ion ThomasFfynhonnell y llun, Ion Thomas

Yr awdur Ion Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Gwyn Rosser.

Mae Ion yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl, ac yn awdur a golygydd llyfrau i blant a phobl ifanc. Mae'n wreiddiol o Gaerfyrddin ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn gweithio fel Cadeirydd 'Cyfeillion' y Cyngor Llyfrau. Mae Ion yn briod a'n dad i ddau o feibion.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae cof gennyf o ddeffro yn y cot a dechrau sylwi fy mod yn gaeth tu ôl i fariau pren ac yn ysu am gael dringo mâs, ac yn gweiddi nerth esgyrn fy mhen 'ffresh… ffresh… 'wi'n ffresh!' er mwyn denu sylw fy rhieni. Mae'n amlwg eu bod nhw wedi dweud y noson gynt 'cer di gysgu nawr fel byddi di'n ffresh yn y bore!' Roedd y gair rhyfedd hwnnw wedi glynu yn y cof!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Golygfa a phrofiadau sy'n rhoi arbenigrwydd i le, a bob tro gwelaf gastell a thraeth Cricieth yn ymddangos, golyga hyn bod gennyf gyfle i hamddena ar y traeth a chyfle i gerdded yr arfordir yng nghwmni'r teulu.

Ffynhonnell y llun, Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Castell Cricieth

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti Murder mystery yn Yr Hen Reithordy, Llanarmon. Roedd disgwyl i bawb newid costiwm a chyfrannu cân neu gerdd ac ati. Magodd y noson adenydd anghyffredin, gyda'r ditectif a oedd mewn dillad cwningen yn angof yn y pantri am oriau yn disgwyl am ei chiw, un arall o'r gwahoddedigion yn mynd ar goll yn y berllan ac un yn ffarwelio mewn bws mini gwag!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Brwdfrydig, amyneddgar, triw.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Ar daith i Iwerddon cafodd Meirion Jones yr artist a minnau fynediad i barti a bwffe gwell na'r arfer yng Nghlwb Hwylio Dingle. Safodd yr efeilliaid Hywel a Heulyn tu allan. A minnau erbyn hynny yn difyrru'r gwesteion wrth y piano, daeth y manijar draw ataf a gofyn tra'n pwyntio drwy'r ffenest 'dŵ iw now ddîs tŵ? Ddei sei ddei âr widd iw'. Atebais innau 'nefyr sîn ddem in mai laiff biffôr,' ac ni chawsant fynediad! Mawr fu'r chwerthin yn ddiweddarach y noson honno.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Canu'r pennill cyntaf mewn steddfod deirgwaith wrth fethu cofio geiriau gweddill y gân!

Er dwi dal i deimlo'n lletchwith wrth feddwl am fy ymgais i ddisgrifio cais ar y Gamp Lawn ar gychwyn gêm gwpan rhwng Arberth a Chaerdydd a chymysgu rhwng lliwiau'r ddau glwb!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Colli fy nhad bum mlynedd yn ôl.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Heb ei fai, heb ei eni. Rhy niferus yn ôl y wraig!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae'r pleser a gefais o ddarllen Barti Ddu a Thrysor y Môr-ladron i'r meibion yn hawlio hoff lyfrau'r ifanc.

Hoff ysgrifennu - mae llythyron Patrick Leigh Fermor, llenor, teithiwr a chymdeithaswr yn y cyfrolau Dashing for the Post a In Tearing Haste wedi ennill eu lle ar y silff lyfrau.

Ffilm - Life is Beautiful sef ffilm Eidalaidd am dad yn ceisio gwarchod ei fab rhag erchyllterau'r gwersyll crynhoi yn yr Ail Ryfel Byd.

Mae Mamma Mia hefyd yn fferfryn gyda'r gerddoriaeth a Groeg yn codi'r hwyliau.

Ffynhonnell y llun, Universal
Disgrifiad o’r llun,

Amanda Seyfried a Meryl Streep sy'n codi calon yn Mamma Mia! Here We Go Again

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Iolo Morganwg - bardd, ysgolor, gweledydd a breuddwydiwr.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n medru godro buwch gyda llaw.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Pryd o fwyd da gyda'r gwin coch gorau a cherddoriaeth amrywiol o'r clasurol i AC/DC yn llenwi'r lle gan danio pob math o dân gwyllt o'r radd flaenaf o'r ardd gefn.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Trysoraf lun ohonof a dynnwyd yn 'steddfod yr Urdd Caerfyrddin yn 1967 yng nghwmni Syr TH Parry Williams. Mae'n amlwg iddo gael dylanwad arnaf gan fy mod yn athro Cymraeg ac yn hoff o fesur y soned!

Ffynhonnell y llun, Ion Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Ion yng nghwmni Syr TH Parry Williams yn Steddfod yr Urdd Caerfyrddin 1967

Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?

Cerdded maes yr Eisteddfod ac eistedd yn y Babell Lên.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Prif Weinidog Cymru - gan gyhoeddi fel gwnaeth Patrick Pearse ar ddechrau Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon - 'Cymru Rydd - Cymru Fyw- Cymru Annibynnol, Gymreig a Chymraeg'.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw