Ffarmwr wedi marw ar ôl damwain tractor
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth ffarmwr o Gonwy wedi clywed iddo gael ei ladd ar ôl i'w dractor rholio lawr arglawdd serth.
Cafodd Heddwyn Lloyd Davies, 81 ac o Fryn Cnap, Llansannan, ei ddarganfod yn farw gyda'i goesau yn sownd o dan olwynion cefn y cerbyd.
Roedd Mr Davies yn gweithio ar dir sydd yn perthyn i fferm Heskin yn ardal Brynrhydyrarian.
Clywodd y cwest fod y tractor wedi cwympo ar ei ochr, gan daflu Mr Davies allan o'r sedd flaen.
Dangosodd archwiliad post-mortem fod Mr Davies wedi diodde' nifer o anafiadau i'w frest a'i asgwrn cefn.
Ar ôl agor y cwest, fe wnaeth y crwner yn Rhuthun ei ohirio tan ddyddiad i'w bennu, a dywedodd bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau a bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn gwybod am y digwyddiad.