Carcharu meddyg a drefnodd gwrdd â merch 15 oed
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg 35 oed wedi cael ei garcharu wedi iddo drefnu cwrdd gyda merch 15 oed ddychmygol er mwyn cael rhyw gyda hi.
Cafodd Jamil Rehman, oedd yn byw yn Derby, ei ddal gan grŵp o bobl sy'n ceisio dal pidoffiliaid a oedd wedi creu proffil ffug i ferch 15 oed.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Rehman, a oedd yn hyfforddi i fod yn feddyg teulu, wedi trefnu i gwrdd gyda'r ferch yng Nghaerfyrddin, ac roedd wedi talu am ystafell mewn gwesty gerllaw.
Ond roedd aelodau o'r grŵp yn disgwyl am y tad i ddau, ac fe aethon nhw at yr heddlu.
Cafodd Rehman ei garcharu am 20 mis am geisio cwrdd gyda phlentyn ar ôl meithrin perthynas, ac am geisio trefnu neu hwyluso troseddau rhyw yn erbyn plant.
'Esboniadau chwerthinllyd'
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC fod Rehman wedi gwneud y daith o dros bedair awr "am un pwrpas yn unig, sef cael cyfathrach rywiol gyda merch 15 oed".
Fe ddaeth i'r amlwg wedi ymchwiliad pellach ei fod hefyd wedi cysylltu gyda merch 13 oed arall ac awgrymu cwrdd gyda hi.
Fe wnaeth y barnwr feirniadu agwedd Rehman gan iddo geisio cyflwyno "cyfres o esboniadau chwerthinllyd i geisio perswadio'r rheithgor nad oedd am weithredu'n rhywiol".
Roedd Rehman wedi honni ei fod yn "ceisio helpu merched bregus," ei fod wedi drysu rhwng y geiriau am dŷ bwyta a gwesty a'i fod am i'r ferch 15 oed fod yn "arweinydd gwyliau iddo ar draethau de orllewin Cymru".
Roedd bargyfreithiwr Rehman wedi nodi llythyr a roddwyd i'r barnwr cyn y gwrandawiad dedfrydu oedd yn dangos "mymryn" o ddealltwriaeth o'r hyn yr oedd wedi ei wneud.
Ond dywedodd y barnwr wrth Rehman fod llythyr o'r fath "yn dactegol ar eich rhan chi".
Wrth ddedfrydu Rehman i 20 mis o garchar, fe wrthododd y Barnwr Paul Thomas QC ddedfrydau eraill gan nad oedd yn credu y byddai Rehman yn cydweithredu gydag unrhyw raglen adsefydlu.
Roedd y barnwr yn cydnabod y bydd effaith fawr ar deulu ifanc Rehman - mae'r dyn 35 oed o Bacistan yn y DU ar fisa gwaith, mae'n dad i ddau ac mae ei wraig yn disgwyl trydydd plentyn ym mis Rhagfyr.
"Ni allaf feddwl am reswm lle byddech yn cael parhau i fod yn feddyg, ac felly mae'n annhebygol y byddwch yn cael aros [yn y DU]," meddai.
Gorchmynnodd y barnwr y dylai enw Rehman fynd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am ddeng mlynedd.
Dywedodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol bod Rehman wedi'i wahardd wrth i ymchwiliad barhau, ond eu bod yn trin euogfarnau yn "ddifrifol iawn" a bod meddyg sy'n cael dedfryd o garchar yn cael ei gyfeirio am wrandawiad tribiwnlys.