Morgannwg yn atal Durham am ddiwrnod arall

  • Cyhoeddwyd
Dan DouthwaiteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Douthwaite oedd prif sgoriwr Morgannwg ddydd Mawrth gyda 96 o rediadau

Llwyddodd Morgannwg i atal Durham rhag sicrhau'r fuddugoliaeth ar drydydd diwrnod eu gêm yn Chester-le-Street ddydd Mawrth.

Ar ôl cyfyngu batiad cyntaf Morgannwg i 97 ddydd Sul, fe gyrhaeddodd Durham 503-8 ddydd Llun cyn cau eu batiad cyntaf nhw.

Fe ddechreuodd Morgannwg y trydydd diwrnod ar 71-2, gyda disgwyl y byddai'r wyth wiced arall yn disgyn yn weddol fuan.

Ond diolch i Dan Douthwaite (96) ac Andrew Salter (82 heb fod allan) bydd yn rhaid i Durham ddisgwyl tan y diwrnod olaf ar gyfer buddugoliaeth sydd bellach yn edrych yn anochel.

Fe fydd Morgannwg yn dechrau'r diwrnod olaf ar sgôr o 333-7 yn eu hail fatiad - sy'n dal 73 rhediad tu ôl i Durham, sydd angen cipio tair wiced yn unig.

Pynciau cysylltiedig