Clwb dringo merched yn dathlu ei ganmlwyddiant
- Cyhoeddwyd
Mae'n 100 mlynedd ers i glwb dringo cenedlaethol y DU i ferched - y Pinnacle Club - gael ei sefydlu yng ngogledd Cymru.
Dros y ganrif ddiwetha', mae aelodau wedi dringo ar draws y byd ond mae Cymru'n parhau yn galon i'r clwb.
I nodi'r garreg filltir mae'r clwb wedi creu gwefan newydd, ynghyd â ffilmiau a recordiadau sain sy'n crynhoi hanes y clwb.
Mae rhai o'r casgliadau yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain.
Cafodd y clwb ei sefydlu yng ngwesty Pen y Gwryd, yn Nant Gwynant, ym mis Mawrth 1921. Daeth 43 o ferched i'r cyfarfod cynta' hwnnw ac ymaelodi gyda'r clwb, aeth wedyn o nerth i nerth dros y blynyddoedd.
Fe barhaodd y clwb i ddefnyddio'r gwesty fel eu man cyfarfod nes iddyn nhw gael eu 'cwt dringo' eu hunain i lawr y dyffryn, ger gorsaf bŵer trydan dŵr Cwm Dyli ar lechwedd deheuol yr Wyddfa, yn 1932.
Mae'r clwb yn dal i ddefnyddio'r cwt yn rheolaidd hyd heddiw fel man cyfarfod ar gyfer aelodau.
Dwy o'r aelodau gwreiddiol oedd yn dod o ogledd Cymru - un ohonynt oedd perchennog Pen y Gwryd - ond mae cysylltiadau'r clwb gydag Eryri yn dal yn agos a nifer o'r aelodau yn byw yn lleol.
Fel rhan o'r canmlwyddiant, mae'r clwb wedi trefnu digwyddiad arbennig yn Eryri gyda dros 100 o ferched o ar draws y wlad a thu hwnt wedi dod at ei gilydd i ddringo a dathlu.
Meddai un o'r trefnwyr ac aelod o'r clwb, Abi Chard: "Mae ganddon ni ychydig o dan 200 o aelodau erbyn hyn, yn mynd o'u 20au i rai yn eu 90au hyd yn oed.
"Maen nhw'n dod o ar draws Prydain a rhai'n dod o dramor.
"'Da ni wedi trefnu'r digwyddiad yma yn Eryri i ddathlu'r canmlwyddiant ac mae 'na aelodau a rhai sydd ddim yn aelodau wedi dod i'n helpu ni ddathlu.
"Mae'n dangos pa mor bwysig ydy cael rhywbeth fel y Pinnacle Club, sy'n rhoi cyfle i ferched ddringo efo'i gilydd.
"Dydy hi'n dal ddim yn anarferol i fod allan ar graig neu glogwyn a bod yr unig ferch yng nghanol dynion.
"Felly mae cael digwyddiadau fel hyn, lle mae 'na ferched i gyd efo'i gilydd ar y graig, yn rhoi hyder i ni ac yn gyffrous iawn."
'Cymuned arbennig iawn'
Ychwanegodd un arall o'r aelodau, Melina von und zur Muehlen:
"Roeddan ni allan drwy'r dydd yn dringo'r diwrnod o'r blaen ym Mwlch Llanberis - roeddan ni'n uchel iawn dros y dyffryn efo golygfeydd bendigedig.
Ti'n gallu cyrraedd llefydd na fydde' ti byth yn gallu eu cyrraedd ar droed.
"Dwi'n meddwl bod rhywbeth fel y Pinnacle Club yn hollbwysig am ei fod o'n creu gofod sy'n arbennig i ferched o fewn dringo traddodiadol, sydd ddim yn digwydd yn naturiol.
"Felly mae'n werthfawr ac yn creu cymuned arbennig iawn."
'Cymru yw'r cartre' ysbrydol'
Wrth i'r clwb ddathlu 100 mlynedd, mae wedi bod yn gyfle i edrych yn ôl dros yr hanes a gweld sut mae dringo i ferched wedi datblygu dros y blynyddoedd, fel yr esbonia Val Hennelly, un arall o drefnwyr y canmlwyddiant.
"Mae ganddon ni fap o ble mae'r clwb wedi bod yn y byd ar ein gwefan," meddai.
"Yn y dyddiau cynnar mynyddoedd yr Himalaya oedd hi, wedyn llawer o'r Alpau. Wedyn yn y '50 a'r '60au mi ddoth De America i mewn iddi.
"Yn ddiweddar mae 'na lawer wedi bod yn dringo mewn ardaloedd sun rock fel 'da ni'n galw nhw, lle fedrwch chi gyrraedd ar wyliau cyffredin.
"Tra'n bod ni'n teithio i bobman, 'da ni'n dal i ystyried Cymru fel ein cartre' ysbrydol."
Prin offer ac amddiffyniad
Mae'r technegau dringo hefyd wedi newid dros y blynyddoedd, gyda llawer mwy o offer a diogelwch ar gael erbyn hyn.
Meddai Hillary Lawrenson, cyn lywydd y clwb: "Un o'r pethau sy'n ein taro ni wrth edrych yn ôl ar hen luniau ydy cyn lleied o offer ac amddiffyniad oedd ganddyn nhw fel y dringwyr cynta' 'na.
"Mi fyddai ganddyn nhw raff o gwmpas eu canol, efallai sling neu ddau o raff cywarch (hemp) - a dyna ni.
"Pan 'da chi'n edrych ar y lluniau 'da chi'n gweld y rhaff jyst yn mynd fyny a fyny cyn bod ganddyn nhw un peth bach yn eu dal nhw'n sownd.
"Roeddan nhw'n ddewr iawn. Maen nhw'n sicr yn ysbrydoliaeth i ni."
Trwy grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae'r clwb wedi gallu creu archif ddigidol o'u holl luniau, yn ogystal â chomisiynu cyfres o ffilmiau er mwyn cofnodi'r hanes a'r atgofion a cheisio annog cenhedlaeth newydd o ferched i ddal i ddringo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019