Covid: 13 o farwolaethau a 3,303 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
vaccineFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 13 o farwolaethau yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Gwener.

Mae'n dod â chyfanswm y marwolaethau - yn ôl dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi - i 5,852.

Cadarnhawyd 3,303 o achosion newydd o'r feirws hefyd, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 341,641.

O ganlyniad mae'r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi codi eto o 582 i 593.1.

Dyna gyfradd uchaf y drydedd don o achosion hyd yn hyn.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (909.9), Merthyr Tudful (867) a Rhondda Cynon Taf (793.3).

Mae'r gyfradd yn uwch na 300 erbyn hyn ymhob ardal ar draws Cymru. Sir Fynwy sydd â'r gyfradd isaf (309.8) gyda Phenfro'n ail (366.4). Wrecsam (367.8) yw'r unig sir arall gyda chyfradd is na 400.

Mae wedi dod i'r amlwg erbyn hyn bod 15 o bobl wedi marw gyda'r feirws ddydd Gwener 17 Medi - y nifer uchaf ar unrhyw ddiwrnod unigol yng Nghymru ers 21 Chwefror.

Dydy ICC heb gyhoeddi ffigyrau eto o ran brechiadau ond hyd at 09:00 ddydd Iau roedd 2,403, 572 o bobl wedi cael un brechiad Covid-19 a 2,214,247 wedi cael y cwrs llawn.