Y Bencampwriaeth: Coventry 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kieffer Moore o GaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd wedi cael dechrau cymysg i'r tymor

Mae Caerdydd wedi colli eu gêm gyntaf oddi cartref y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ar ôl i Coventry City eu trechu nos Fercher.

Aeth yr Adar Gleision ar ei hôl hi yn gynnar yn yr hanner cyntaf wrth i Viktor Gyökeres rwydo o du allan y cwrt cosbi ar ôl chwarter awr yn dilyn ymosodiad cyflym.

Llwyddodd y tîm cartref i reoli'r gêm o hynny ymlaen, gan fygwth sgorio mwy wrth i Callum O'Hare, Dom Hyam a Kyle McFadzean fethu cyfleoedd.

Methodd James Collins fanteisio ar unig gyfle amlwg Caerdydd, gan fethu'r targed ar ôl croesiad Perry Ng.

Cafodd Fankaty Dabo o'r tîm cartref gerdyn coch yn eiliadau olaf y gêm - ond daeth hi'n rhy hwyr i ddylanwadu ar y canlyniad.