Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cau rhan o gampws prifysgol yn dilyn ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd.
Gwelwyd swyddogion fforensig y tu allan i adeilad Prifysgol De Cymru ar Stryd Adam yn agos at ganol y ddinas ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i ymosodiad difrifol yn y cyffiniau am tua 23:00 nos Sadwrn.
Ychwanegodd y llu fod swyddogion ar y safle a'u bod yn cynnal ymholiadau yn y ddinas.
Mae Prifysgol De Cymru wedi dweud y bydd y campws ar gau am weddill y dydd oherwydd y digwyddiad, ond y bydd yn ailagor fel yr arfer ddydd Llun.