'Gallai cyflwr wal ger Llwyngwril achosi trychineb'

  • Cyhoeddwyd
Llwyngwril
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryderon y bydd cerbydau yn mynd drwy'r wal ac yn syrthio i drac y rheilffordd islaw

Mater o amser yw hi cyn y bydd trychineb ofnadwy yn digwydd ar ffordd arfordirol yr A493 rhwng Llwyngwril a'r Friog, medd cynghorydd sir.

Yn ôl Louise Hughes, sy'n cynrychioli ward Llangelynnin ar Gyngor Gwynedd, mae darnau o'r wal derfyn "wedi dirywio i fod bron yn ddim".

Mae'r wal yn sefyll uwchben dibyn uchel uwchlaw y môr, gyda thrac rheilffordd islaw.

"Mi ddaru'r Cyngor Cymuned godi'r mater yma gynta' efo Cyngor Gwynedd nôl ym mis Ionawr 2015 ac ers hynny mae'r mater wedi cael ei basio nôl a 'mlaen rhwng sefydliadau gwahanol," medd y Cynghorydd Hughes.

"Rwyf fi yn bersonol wedi codi'r mater yng Nghynhadledd Rheilffordd Arfordir y Cambrian nifer o weithiau ond does 'na ddim wedi digwydd, ac mae hyn yn hollol annerbyniol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Louise Hughes ei bod wedi codi'r mater nifer o weithiau

Mae'r Cynghorydd Hughes yn poeni y gallai car neu gerbyd fynd drwy'r wal a disgyn i'r trac rheilffordd.

Ond dywedodd Cyngor Gwynedd bod diogelwch defnyddwyr y ffordd yn hollbwysig.

"Rydym yn ymchwilio os ydy'r safle yma yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol neu gorff arall," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Byddwn yn trafod unrhyw ddatblygiadau gyda'r aelod etholedig a'r cyngor cymuned perthnasol."

Pynciau cysylltiedig