Arestio dyn 19 oed yn dilyn ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Adeilad Prifysgol De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb heddlu tu allan i adeilad Prifysgol De Cymru ddydd Sul

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw difrifol ar ferch 16 oed yng nghanol Caerdydd nos Sadwrn.

Cafodd y dyn, o ardal Pen-y-lan, ei arestio ddydd Sul ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod yr ymosodiad wedi digwydd tu allan i adeilad Prifysgol De Cymru ar Stryd Adam am tua 23:00 nos Sadwrn.

Mae'r ferch wedi cael ei rhyddhau o Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael ei thrin yno yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig