Morlo ifanc yn marw wedi i ymwelwyr ddychryn ei fam

  • Cyhoeddwyd
sealFfynhonnell y llun, BEN PORTER
Disgrifiad o’r llun,

Mae morloi ifanc i'w gweld weithiau oddi arfordir Cymru rhwng Awst a Rhagfyr

Mae pobl yn cael eu hannog i gadw draw oddi wrth forloi ifanc wedi i un farw ar ôl i'w fam gael ei dychryn gan ymwelwyr yn tynnu hunluniau.

Roedd y morlo ifanc wedi cael ei weld ar draeth ger Llangrannog yng Ngheredigion.

Roedd y cyngor wedi gosod arwyddion a rhannu taflenni yn gofyn i bobl ei adael yn llonydd ond maen nhw'n dweud bod y rhybuddion wedi'u hanwybyddu a bod yr anifail wedi marw.

Yn aml mae morloi i'w gweld ger arfordir Cymru rhwng Awst a Rhagfyr a dyma'r tymor magu.

Os oes pobl ar y traeth fydd y fam ddim yn dychwelyd i fwydo ei hepil - sy'n golygu y gall gael ei adael ar ben ei hun.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Yn ôl Alison Hargrave, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig ar gyfer Pen Llŷn a'r Sarnau o Gyngor Gwynedd: "Rhaid cofio bod morloi bach angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu.

"Dim ond am dair wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau nes bydd yn rhaid iddynt gofalu am eu hunain.

"Mae'n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth."

Dywed swyddogion Ardaloedd Morol Gwarchodedig bod amharu ar fywyd gwyllt ar gynnydd wrth i fwy o bobl ymweld â thraethau.

"Rhaid cofio bod y morloi hyfryd yma yn greaduriaid gwyllt - felly cadwch eich pellter a mwynhewch nhw o bell," medd Rhodri Evans, un o gynghorwyr Ceredigion.

Pynciau cysylltiedig