Brexit: 'Cymorth ariannol i ffermwyr defaid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Defaid mewn marchnad da byw
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 90% o allforion ŵyn Cymru yn mynd i farchnadoedd yr UE

Bydd ffermwyr defaid yn cael cymorth ariannol os nad yw'r DU yn ffurfio cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, yn ôl Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan.

Mae George Eustice yn dweud y bydd ffermydd defaid angen cymorth ariannol gan eu bod yn "allforio cryn dipyn i'r UE".

Dywed Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i'r Trysorlys "ymrwymo i hynny ddigwydd" gan bod nifer o addewidion ariannol eisoes wedi'u torri.

Ar hyn o bryd mae trafodaethau masnach wedi Brexit yn parhau i fynd yn eu blaen.

Fe wnaeth y DU adael yr UE ym mis Ionawr a than diwedd 2020 mae'r rheolau masnachu yr un fath.

Os nad oes cytundeb cyn 1 Ionawr 2021 bydd trethi yn cael eu codi ar nwyddau sy'n teithio rhwng y DU a'r UE.

Os nad oes cytundeb dywed Mr Eustice y bydd hynny yn cael cryn effaith ar y farchnad allforio cig oen i farchnadoedd yr UE - mae oddeutu 90% o gig oen Cymru yn cael ei allforio bob blwyddyn.

"Rydym eisoes wedi datblygu sawl ymyrraeth bosib yn y tymor byr os nad oes cytundeb," meddai.

"Mae'n bwysig nodi hefyd bod y galw am gig oen wedi codi ar draws y byd a bod pris cig oen ryw 15% i 20% yn uwch na'r llynedd.

"Felly mi fyddwn yn ymyrryd os oes rhaid ond nid yw'n eglur ar hyn o bryd beth yw'r gofynion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caergybi ydy'r ail borthladd mwyaf o'i fath yn y DU ar ôl Dover, gyda 1,200 o lorïau a threlars yn defnyddio'r gwasanaeth pob dydd

Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y cynlluniau ar gyfer porthladd Caergybi yn dangos pa mor flêr y mae gweinidogion y DU wedi bod wrth drafod Brexit.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Drakeford, dywedodd Mr Eustice mai cyflwyno trefniadau gwirio oedd y bwriad ar hyd yr amser.

Bydd rhai gwiriadau yn dechrau ar 1 Ionawr 2021 a than bod safle porthladd Caergybi yn weithredol bydd lorïau sy'n cyrraedd porthladd Caergybi yn cael eu gwirio yn Warrington.

Disgrifiad,

Mae pryder y bydd Caergybi'n diodde' effeithiau niweidiol Brexit ar 1 Ionawr, ond heb effeithiau positif

Yn ogystal â'r safle yng Nghaergybi - sy'n safle ar y cyd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU - mae Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddau safle posib arall ar gyfer gwirio bwyd, anifeiliaid a phlanhigion yn ne orllewin Cymru i ddelio gyda lorïau sy'n cyrraedd porthladdoedd Penfro ac Abergwaun.

Bydd gwirio bwyd a phlanhigion yn cychwyn ym mis Gorffennaf.

Dywedodd y Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles: "Ry'n yn credu fod yna bosibilrwydd cryf na fydd pethau'n barod yn y gogledd nac yn y de orllewin erbyn mis Gorffennaf oherwydd yr oedi fu yna wrth ddewis y safleoedd gan weinidogion y DU."

Ychwanegodd y gellir credu y bydd "aflonyddwch yn y porthladdoedd" oherwydd "tensiynau newydd ar y ffin ond mae gennym ni gynlluniau i ddelio â thraffig fydd yn cyrraedd Caergybi".

Galw am gysylltiadau uniongyrchol

Dywedodd llefarydd materion Ewrop plaid Fine Gael yng Ngweriniaeth Iwerddon, Neale Richmond, bod "porthladd Dulyn wedi dyblu yn ei faint" ac y bydd yn barod erbyn 1 Ionawr.

"Ond mae allforwyr o Iwerddon yn chwilio am groesiadau mwy uniongyrchol rhwng porthladdoedd," meddai. "Wythnos diwethaf yr oedd yna gyhoeddiad am gysylltiad newydd rhwng Wexford a Dunkirk.

"Ry'n hefyd yn gweld croesiadau newydd i Santander, i Lisbon, i Zeebrugge ac ry'n yn gobeithio gweld croesiad newydd i Le Havre am nad yw pobl am weld oedi posib wrth fynd drwy borthladd Caergybi neu Dover."

Pynciau cysylltiedig