Y Cymry a helpodd i greu America
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o Gymry dylanwadol wedi bod yn rhan o hanes Unol Daleithiau America dros y canrifoedd, ond mae rhai sydd ddim o reidrwydd yn gyfarwydd iawn i ni.
Mae Vivienne Sanders yn hanesydd arbenigol ar hanes America, ac awdur Wales, the Welsh and the Making of America. Yma mae Vivienne yn ymhelaethu ar rai o'r unigolion oedd wedi cyfrannu at ddatblygiad cynnar yr Unol Daleithiau.
Mae'r we yn cynnwys llawer o honiadau anghywir am linachau Cymreig am yr hanes o "America yn cael ei greu", a hyd yn oed pan mae llinach Gymreig yn wir, mae'n demtasiwn i'r Cymry orliwio'r cyfraniadau Cymreig.
Fodd bynnag fe wnaeth llawer o bobl oedd gyda gwaed Cymreig gyfraniad pwysig iawn i ddatblygiad yr Unol Daleithiau, ac roedd Cymry a Chymry America yn arwyddocaol ym mhob cam.
Datblygiad trefedigaethol
Y cam cyntaf oedd datblygiad trefedigaethol a arweiniodd tuag at Ryfel Annibyniaeth America. Roedd y Crynwyr Thomas Lloyd a David Lloyd, a anwyd yn Sir Drefaldwyn, yn bwysig yn y mudiad yma.
Ar ddiwedd yr 17eg ganrif, cynhyrfwyd sawl mil o'r Cymry yn nhrefedigaeth berchnogol William Penn yn Pennsylvania pan aeth Penn yn ôl ar ei addewid o "farwniaeth" Gymreig hunanlywodraethol i'r gogledd-orllewin o Philadelphia.
Arweiniodd Thomas Lloyd y gwrthwynebiad yn erbyn polisïau Penn a Chyngor Pennsylvania. Arweiniodd David Lloyd yr wrthblaid yn erbyn Penn yng Nghynulliad Pennsylvania, gan fynnu y gallai Cynulliad etholedig wrthsefyll awdurdod perchennog y drefedigaeth. Disgrifiodd Penn, David Lloyd, fel "bradwr, ffiaidd a di-flewyn-ar-dafod".
Daeth hefyd i'r casgliad bod y Crynwyr, llawer ohonynt yn Gymry, yn aflywodraethus. Mae'n sicr bod arweinwyr yr wrthblaid lwyddiannus hon wedi helpu i gynhyrchu Datganiad Annibyniaeth America ddegawdau yn ddiweddarach.
Sicrhau annibyniaeth
Yr ail gam oedd sicrhau a chynnal yr annibyniaeth honno. Roedd Thomas Jefferson yn un o sefydlwyr mwyaf arwyddocaol yr Unol Daleithiau, a fyddai'n sôn â balchder am ei deulu a ddaeth o Eryri.
Unigolyn eithriadol o bwysig arall oedd Robert Morris "Ariannwr y Chwyldro Americanaidd", a anwyd yn Lerpwl. Yn 2003, datganodd Tŷ Cynrychiolwyr Pennsylvania fod Morris o dras Cymreig.
Fodd bynnag, dadleuodd yr hanesydd blaenllaw o Gymru, David Williams, fod y gweinidog ymneilltuol Richard Price, na adawodd Brydain erioed, "wedi cyfrannu llawer mwy nag unrhyw [Gymro] arall... i dwf a datblygiad yr Unol Daleithiau."
Ganwyd Richard Price yn Llangeinwyr, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd ei weinidogaeth yn Llundain, ond roedd bob amser yn dychwelyd i Gymru am wyliau blynyddol ac i nofio ar draeth Southerndown.
O'r dechrau, cydymdeimlodd Price â gwrthwynebiad y gwladychwyr Americanaidd i bolisïau Prydain, a daeth yn ffrind gwerthfawr i ddau o sefydlwyr cyntaf y genedl Americanaidd, Benjamin Franklin a John Adams.
Ysgrifennodd Price lyfr - Observations on the Nature of Civil Liberty - a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 1776, a oedd yn cynnwys dadleuon a fyddai'n cael eu hadleisio yn y Datganiad Annibyniaeth yn Gorffennaf 1776.
Derbyniodd Price gydnabyddiaeth amlwg: dyfarnodd Prifysgol Yale ddwy radd anrhydeddus yn 1781, un i'r Cadfridog George Washington, a'r llall i Price.
Dewisodd Benjamin Franklin hyd yn oed gael ei law yn gorffwys ar gopi o Observations Price yn ei bortread yn 1780.
Ar sawl achlysur, rhybuddiodd Price ei ffrindiau Americanaidd am symudiadau milwyr Prydeinig, ac un o gynorthwywyr pwysicaf Washington wrth drechu'r milwyr hynny oedd mab mewnfudwr o Gymru, Daniel Morgan, a anwyd yn New Jersey.
Efallai mai'r trobwynt mwyaf yn y Rhyfel dros Annibyniaeth oedd brwydr Saratoga, a anogodd y Ffrancwyr i gynghreirio â'r drefedigaeth.
Ar ôl Saratoga, dywedodd y Cadfridog Gates, "Ni ellir rhoi digon o ganmoliaeth i'r Cyrnol Morgan."
Buddugoliaeth wych arall i Daniel Morgan (a oedd erbyn hynny yn Gadfridog) oedd Cowpens, a sbardunodd enciliad Prydain o'r de a ddaeth i ben wrth iddynt ildio yn Yorktown.
Ehangu tiriogaeth
Y trydydd cam oedd ehangu'r Unol Daleithiau. Dau o archwilwyr gorau Gogledd America oedd Daniel Boone, a boblogeiddiodd setlo yn Kentucky, a Meriwether Lewis, a wnaeth yr archwiliad trawsgyfandirol cyntaf.
Roedd tad-cu Daniel Boone, Edward Morgan, wedi ymfudo o'r Bala i Philadelphia ac roedd Daniel bob amser yn cofio ei fam yn canu caneuon Cymraeg iddo, tra bod gan Meriwether Lewis dras Gymreig ar ddwy ochr y teulu.
Fel arlywydd, fe ddyblodd Thomas Jefferson diriogaeth yr Unol Daleithiau wrth brynu Louisiana gan Ffrainc yn 1803. Trefnwyd y pryniant hwnnw gan James Monroe; roedd teulu ei fam wedi ymfudo o Gymru i Virginia.
Fel arlywydd, ychwanegodd James Monroe diriogaeth a sicrhau ffiniau'r Unol Daleithiau rhag pwerau ehangu gwledydd eraill.
Anfonodd Monroe y Cadfridog Andrew Jackson i ddelio â môr-ladron a chyrchoedd Indiaidd a ddeilliodd o Florida. I bob pwrpas, meddiannodd Jackson Florida, ac yn y diwedd prynodd Monroe Florida gan Sbaen yn 1819.
Cyflawnwyd yr holl ehangu heb fawr o ymdrech a gwariant - ac eto anaml mae James Monroe yn cael ei gynnwys mewn hanes neu ar y we fel arwr Americanaidd Gymreig.
Creu gwlad ddiwydiannol
Y pedwerydd cam oedd gwneud America yn ddiwydiannol, a chyfrannodd Cymru sawl arloeswr diwydiannol, gan gynnwys Rhys Davies, David Thomas, Bill Jones ac Oliver Evans.
Ganwyd Oliver Evans yn 1755 i fewnfudwyr o Gymru yn Newport, Delaware, ac fe ddyfeisiodd felin flawd awtomatig. Arweiniodd hyn at fara gwell a rhatach ar gyfer y llu oedd wrthi'n 'creu' America.
Mae'n debyg fod Evans hefyd wedi bod yn arbrofi gyda dyfeisiadau eraill fel oergelloedd, boeleri, pŵer solar a goleuadau nwy.
Ganwyd Rhys Davies yn Llangynidr, Sir Frycheiniog, 30 milltir i'r gogledd o waith haearn Tredegar - dechreuodd weithio yno yn 11 oed. Cafodd ei recriwtio i reoli'r gwaith o adeiladu Gwaith Haearn Tredegar yn Richmond, Virginia, a sicrhau ei fod yn dod yn un o brif gynhyrchwyr haearn America.
Dim ond hap a damwain oedd ffeindio ysgrif goffa iddo yn yr Hereford Times yn 1997, a galluogodd hyn ymchwilwyr i sylweddoli ei bwysigrwydd yn ehangu diwydiant haearn America.
Weithiau mae llythyrau neu bapurau newydd sydd wedi goroesi yn gwneud ein harwyr di-glod yn real iawn i ni: cofnododd y Richmond Compiler fod Davies wedi'i drywanu i farwolaeth gan un o'i weithwyr melin.
Rhywsut, Davies oedd ar fai am farwolaeth ei hun: cafodd y llofrudd ei "archwilio a'i ryddhau".
Magwyd David Thomas ar ei fferm deuluol yng Nghastell-nedd. Sicrhaodd ei deulu Cymraeg ei fod yn dysgu Saesneg yn yr ysgol ac ar ôl cyfres o gynaeafau gwael, roedd ei deulu yn amheus fod dyfodol iddo mewn amaethyddiaeth.
Anfonwyd ar brentisiaeth yng Ngwaith Haearn Castell-nedd gan ei deulu. Daeth yn uwch-arolygydd Gwaith Haearn Ynysgedwyn yn Ystradgynlais, ac yn fuan wedyn, cafodd ei symud o Gymru i Pennsylvania i gyflwyno'r broses chwyldroadol o doddi haearn gyda glo carreg (anthracite). Roedd hyn yn cynhyrchu haearn rhatach a gwell.
Byddai David Thomas yn cael ei alw yn 'Tad Diwydiant Haearn Anthracite America' gan ei gyfoeswyr.
Daeth William "Bill" Jones, mab mewnfudwyr o Gymru i Pennsylvania, yn uwch-arolygydd cyffredinol gwaith dur Andrew Carnegie ger Pittsburgh, Pennsylvania.
Dyfeisiodd Jones welliannau mewn prosesau gwneud dur, yn enwedig ei Jones Hot Metal Mixer, a helpodd America i ddod yn brif gynhyrchydd dur y byd. Ar ôl i Jones farw yn dilyn damwain ddiwydiannol, talodd Carnegie $35,000 o iawndal i wraig weddw Jones i sicrhau trwydded am ei ddyfais.
Marwolaeth Jones a sicrhaodd gyfoeth Carnegie, ac mae un o ddisgynyddion Jones wedi rhoi achos at ei gilydd sy'n awgrymu bod annhegwch yn rhan o dynged Jones a'i Hot Metal Mixer.
Mae'r achos yn cynnwys pwyntiau fel fod Jones wedi marw yn annisgwyl ar ôl cael ei weld gan feddygon preifat Carnegie, er fod meddygon eraill yn siŵr y byddai'n goroesi'r ddamwain, ac nad oes cofnod o gwbl o unrhyw gyfathrebu rhwng Jones a Carnegie yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd, sef pryd oedd Jones yn cynllunio tuag at sefydlu ei fusnes dur ei hun.
Enillodd dyfais Bill Jones filiynau i Carnegie, sydd yn dangos pa mor gudd ac anhysbys yw cyfraniadau'r Cymry yn America.
Wrth gwrs roedd yna unigolion enwog a phwysig eraill o Gymru a Chymry America, ynghyd â channoedd o filoedd o ffermwyr di-glod a helpodd i weithio'r tir, gweithwyr mewn diwydiannau fel haearn, glo a thunplatiau, a'r rhai a frwydrodd dros annibyniaeth ac i achub yr Undeb... Ond stori arall yw honno.
Cyhoeddwyd Wales, the Welsh and the Making of America gan Gwasg Prifysgol Cymru.