Morgannwg yn sgorio bron i 400 yn erbyn Surrey

  • Cyhoeddwyd
David Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Lloyd wedi rhoi Morgannwg mewn sefyllfa gref

Mae Morgannwg mewn sefyllfa addawol ar ddiwedd diwrnod cyntaf gêm olaf y tymor yn y Bencampwriaeth gyda sgôr o 379-4 yn erbyn Surrey.

Sgoriodd David Lloyd 121 i'r Cymry ar yr Oval - y tro cyntaf iddo gyrraedd 100 o rediadau wrth agor y batio i'r sir.

Fe sgoriodd Joe Cooke 68, cyn i Lloyd golli ei wiced gyda Morgannwg yn 289 am bedair wiced.

Bydd Kiran Carlson (45 heb fod allan) a Chris Cooke (44 heb fod allan) yn gobeithio ychwanegu at y sgôr ar yr ail ddiwrnod ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig