Morgannwg mewn sefyllfa gref yn erbyn Surrey

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd y capten Chris Cooke i sgorio 205 heb fod allan yn y batiad cyntaf

Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref yn eu gêm olaf o'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn dilyn batiad cyntaf addawol yn erbyn Surrey ar yr Oval.

Yn dilyn dechrau gwych i'r gêm ar y diwrnod cyntaf ddydd Mawrth, fe ddechreuodd Morgannwg y diwrnod ar sgôr o 379-4.

Fe barhaodd y batio da ddydd Mercher, gyda'r capten Chris Cooke yn llwyddo i sgorio 205 heb fod allan cyn i'r Cymry ddod â'u batiad i ben ar sgôr o 672-6.

Ond cafodd Surrey ddechrau sefydlog i'w batiad nhw hefyd, gan gyrraedd 45-0 erbyn diwedd yr ail ddiwrnod.

Pynciau cysylltiedig