Surrey yn taro 'nôl yn erbyn Morgannwg ar yr Oval
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n edrych yn anochel bellach y bydd Morgannwg a Surrey yn cael gêm gyfartal ar yr Oval wedi i'r tîm cartref fatio trwy'r trydydd diwrnod.
Fe wnaeth Surrey ddechrau'r diwrnod ar sgôr o 45-0 wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 672-6.
Parhau wnaeth y batio sefydlog ddydd Iau, wrth i'r tîm cartref gyrraedd 387-2 erbyn diwedd y dydd - 285 o rediadau tu ôl i Forgannwg ond gydag wyth wiced yn weddill.
Jamie Smith oedd y seren i Surrey gyda 138 o rediadau, tra bod Ollie Pope (95 heb fod allan) a Hashim Amla (87 heb fod allan) yn parhau wrth y crîs.
Gyda'r llain yn cynnig dim i'r bowlwyr, mae'n edrych yn weddol sicr bellach y bydd y gêm yn gorffen yn gyfartal ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021